Post mortem digidol Llun: Gwefan iGene
Mae disgwyl i ganolfannau post mortem digidol ddod i Gymru erbyn 2015, a fydd yn cynnal archwiliad post mortem 3D, heb orfod agor y corff.
Mae’r ganolfan gyntaf gwerth £3 miliwn am agor yn Bradford, Sheffield y flwyddyn nesaf a dyma fydd yr unig le i ddefnyddio’r dechnoleg newydd, ar wahan i Malaysia – lle cafodd y dechnoleg ei dyfeisio.
Bydd 18 canolfan wedi agor ym Mhrydain erbyn diwedd 2015 gan greu 250 o swyddi newydd.
‘Llai emosiynol’
Nod y dechnoleg yw gwneud y broses o gynnal post mortem yn llai emosiynol i deuluoedd mewn cyfnod o alaru. Bydd hefyd yn gwneud y broses yn llawer cyflymach, gan ddarparu canlyniadau mwy manwl, yn ôl iGene – y cwmni a ddatblygodd y dechnoleg.
Dywedodd iGene hefyd fod y math newydd o archwiliad am gael ei wneud gyda chyfrifiadur â sgrin gyffwrdd.
Bydd sefyllfa’r farwolaeth hefyd yn gallu cael ei ail greu yn defnyddio’r cyfrifiadur, a bydd y canlyniadau yn dod drwodd yn syth, yn ôl y cwmni.