Mae’r Post Brenhinol wedi cyhoeddi cynnydd arall yn ei elw eto heddiw ond wedi rhybuddio am amodau heriol yn ei fusnes parseli ac effaith y bygythiad o streiciau yn ddiweddar.
Wrth gyhoeddi ei ganlyniadau cyntaf ers cael ei werthu ar y farchnad stoc, mae’r grŵp wedi cyhoeddi bod ei elw wedi bron a dyblu i £283 miliwn am y chwe mis hyd at Fedi 29, o £144 miliwn y llynedd.
Ond roedd y grŵp wedi gweld gostyngiad yn y galw am ei fusnes parseli wrth i’r haf poeth arwain at lai o bobl yn prynu nwyddau ar-lein. Dywedodd y Royal Mail bod y bygythiad o streiciau hefyd wedi cael effaith ar y busnes parseli yn ystod y cyfnod prysur yn arwain at y Nadolig.
Fe gododd cyfraddau yn y Post Brenhinol 4% i 553c ar ôl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi heddiw.