Mae merch 18 oed wedi cael ei lladd mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Modelwyddan bore ma.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar Ffordd Abergele, Bodelwyddan am 8.15yb bore ma yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan Mercedes Box coch, car Vauxhall Corsa gwyn a cherddwr.
Bu farw’r ferch yn y fan a’r lle. Mae ei theulu wedi cael gwybod.
Cafodd gyrrwr y Vauxhall Corsa anafiadau difrifol yn y gwrthdrawiad ond nid rhai sy’n peryglu bywyd.
Mae gyrrwr y fan Mercedes wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad.
Mae’r gwasanaethau brys yn dal i fod ar y safle ac mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal ar hyn o bryd.
Dywed Heddlu’r Gogledd bod ymchwiliad ar y gweill ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un oedd yn gyrru neu’n cerdded yn yr ardal tua 8yb ac a oedd wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.