Mae’r tân ym Mharc Busnes y Fro yn Llandw yn parhau i losgi ond bellach o dan reolaeth, yn ôl y gwasanaeth tân.

Ond gall diffoddwyr tân fod ar y safle am rai dyddiau eto.

Roedd tua 80 o ddiffoddwyr tân yn ceisio rheoli’r fflamau ddydd Mawrth, wedi i’r tân gychwyn mewn uned ailgylchu am bump o’r gloch y bore.

Yn ôl y gwasanaeth tân, mae’r deunyddiau ailgylchu fel plastig a phapur yn llosgi yn y tân, ond nid oes unrhyw wastraff peryglus.

Mae’r ffyrdd o amgylch y parc yn parhau i fod ynghau.

Dyma’r ail dân mewn mis ar y stad, wedi i adeilad Siteserv gerllaw gael ei ddifrodi gan dân.