Ian Watkins
Mae arbenigwr plant wedi rhybuddio bod yr achosion o gam-drin plant ifanc iawn ar gynnydd a bod oedran y rhai sy’n cael eu cam-drin yn gostwng.
Daeth sylwadau Des Mannion, pennaeth yr NSPCC yng Nghymru, ar ôl i gyn brif leisydd y Lostprophets Ian Watkins bledio’n euog i gyfres o droseddau rhyw ddoe, gan gynnwys ceisio treisio babi.
“Mae’r awydd i gam-drin babanod bach iawn yn rhywiol yn rhywbeth mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ei chael yn rhy arswydus i’w ddeall,” meddai.
“Ond mae na gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y delweddau o blant sy’n cael eu cam-drin sy’n cael eu dosbarthu ar y we dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae asiantaethau wedi gweld cynnydd yn eu difrifoldeb a gostyngiad sylweddol yn oedran y plant sy’n cael eu camdrin.”
Dywedodd bod gan Ian Watkins “obsesiwn peryglus” gyda’r math gwaethaf a mwyaf eithafol o gam-drin plant yn rhywiol.
Roedd ei broffil uchel yn fyd eang wedi ei ganiatáu i gael mynediad at ferched ifanc a oedd yn hawdd eu dylanwadu at ei ddibenion arswydus, meddai, ac fe ddylai ei ddedfryd adlewyrchu hynny.
Dywedodd Des Mannion bod angen i asiantaethau gydweithio i fynd i’r afael a’r broblem.
Bydd Ian Watkins, 36, o Bontypridd yn cael ei ddedfrydu ar 18 Rhagfyr ynghyd a dwy ddynes arall yn eu 20au, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol, oedd hefyd wedi pledio’n euog i nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant.