Y llifogydd yn Llanelwy flwyddyn yn ol
A hithau’n flwyddyn union ers i’r afon Elwy orlifo’i glannau yn Nyffryn Clwyd, mae trigolion Ruthun a Llanelwy am gynnal digwyddiadau i gofio’r difrod enfawr a wnaethpwyd yn yr ardal.
Am 7 o’r gloch y bore ma, fe wnaeth tua 50 o bobol ymgynnull ar lan yr afon Elwy gan oleuo canhwyllau bychain a’u gosod ar yr afon.
Roedden nhw’n cofio’n ôl i’r effaith a gafodd y llifogydd ar deuluoedd mewn tua 500 o gartrefi yn yr ardal, ac yn enwedig am Margaret Hughes, 91 oed, a gafodd ei darganfod wedi boddi yn ei chartref.
Bydd gwasanaeth arall ar Stad Glasdir yn Rhuthun am 6 o’r gloch heno.
‘Cofio’r cymunedau gafodd eu heffeithio’
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £100,000 tuag at gynllun £300,000 er mwyn lliniaru llifogydd Glasdir, ac mae’r Aelod Cabinet Arweiniol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd David Smith, yn croesawu’r newyddion:
“Bron i flwyddyn union i heddiw fe achosodd y llifogydd drychineb yn Sir Ddinbych, ac ni fyddwn yn anghofio’r cymunedau lu a gafodd eu heffeithio o ganlyniad i’r llifogydd ar y diwrnod hynny,” meddai.
“Rydym yn parhau i gydweithio â sefydliadau eraill i sicrhau ein bod yn lleihau’r risg cymaint ag y gallwn fel nad yw hyn yn digwydd eto, ac rydym yn hapus iawn â’r gwaith sydd wedi’i wneud ac yn edrych ymlaen at y diwrnod lle byddwn wedi cwblhau’r gwaith.”
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Pwyllgor hefyd wedi ei sefydlu gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cydweithio hefo’r gwasanaeth tân a heddlu’r ardal ac yn derbyn adroddiadau i ddangos y camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau na fydd llifogydd tebyg yn digwydd yn yr ardal yn y dyfodol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi gwneud gwaith ar leoliad Glasdir trwy godi’r bwnd a chael gwared ar rai o’r coed ar hyd lan yr afon, ac wrthi ar hyn o bryd yn llunio cynlluniau ar gyfer ateb hirdymor.