Mabon ap Gwynfor
Mabon ap Gwynfor yw’r ffefryn i ennill enwebiad Plaid Cymru i olynu Elfyn Llwyd yn ymgeisydd Seneddol Dwyfor Meirionydd, yn ôl cyn-ohebydd seneddol y BBC John Stevenson.

Bydd dau hysting yn cael eu cynnal, ym Mhwllheli ar y 6ed o Ragfyr ac yn Nolgellau ar y 14eg o Ragfyr, gyda’r pleidleisiau yn cael eu cyfri bryd hynny i ddewis ymgeisydd nesaf y blaid i San Steffan.

Chwech sydd yn y ras – Mandy Williams-Davies, John Gillibrand, Gwynfor Owen, Mabon ap Gwynfor, Liz Saville Roberts a Dyfed Edwards.

Fe fydd cefndir Mabon ap Gwynfor – sy’n ŵyr i Gwynfor Evans –  a’i bersonoliaeth o fantais fawr iddo wrth geisio sicrhau’r enwebiaeth, yn ôl John Stevenson.

“Mae’n ddiddorol fod Mabon ap Gwynfor wedi cael ei grybwyll fel un o’r enwau blaenllaw,” meddai John Stevenson. “Mae o wedi’i dorri o frethyn Plaid Cymru, mae’n rhedeg trwy’i wythiennau.

“Ond beth sy’n drawiadol hefyd yw bod ganddo fywyd y tu allan i wleidyddiaeth – mae ganddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth Cymru, llenyddiaeth, ffarmio. Mae’n foi ‘well-rounded’, fasech chi’n dweud, ac yn dda uffernol efo pobl.

“Yn sicr, i mi Mabon ap Gwynfor ydi’r ffefryn.”

Etholaeth bwysig i’r Blaid

Ond fe bwysleisiodd John Stevenson bwysigrwydd dewis ymgeisydd lleol gyda phroffil uchel– a bod dim modd rhagweld yn bendant sut fyddai’r aelodau yn dewis.

“Mae’r penderfyniad yn nwylo’r etholaeth leol, ac maen nhw’n medru dewis y bobl ryfedda’ weithiau – mae hyn yn wir am bob plaid,” meddai John Stevenson. “Ti byth yn gwybod sut maen nhw’n mynd i ymateb.

“Hon yw sêt saffa’r Blaid, felly bydd angen ffigwr o statws i adlewyrchu statws Dwyfor Meirionydd fel sedd ganolog yn strategaeth genedlaethol y Blaid.

“Mae natur yr etholaeth yma fel sawl un gwledig. Mae’r aelodau yn ymwybodol iawn o’u hannibyniaeth, ac mae’n annhebygol y bydden nhw’n fodlon derbyn person o’r tu allan yn cael eu gosod arnyn nhw.

“Mae’r etholaeth wedi cael nifer o ffigyrau o statws yn eu cynrychioli yn y gorffennol – Elfyn Llwyd a Dafydd Elis-Thomas, ac fe ymgeisiodd Gwynfor Evans dros y sedd hefyd. Allwch chi ddim dewis prentis o wleidydd i sedd fel hon.”

Cau ysgolion yn broblem i Liz Saville

Awgrymodd John Stevenson mae Liz Saville Roberts fydd bygythiad mwyaf Mabon ap Gwynfor ar gyfer yr enwebiad– ond y byddai trafferth Plaid Cymru gyda chau ysgolion lleol yn cyfri yn ei herbyn hi a Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd.

Bu Liz Saville Roberts yn gyfrifol am addysg ar gabinet Cyngor Gwynedd hyd nes i’r Cynghorydd Sian Gwenllian gymryd drosodd.

“Mae Liz Saville Roberts yn ffigwr sylweddol iawn, iawn, iawn,” meddai John Stevenson. “Ond beth sy’n tynnu oddi arni yw mai hi oedd deiliad y portffolio Addysg ar Gyngor Gwynedd.

“Mae’r ffraeo dros gau ysgolion bach yn y sir yn fan gwan iddi hi, achos mae cau ysgolion, er mod i’n medru deall y dadleuon dros pam ei fod o’n bolisi sy’n gwneud synnwyr, yn beth uffernol o emosiynol i bobl.

Dyfed Edwards

“Fyswn i ddim yn gweld Dyfed Edwards yn ennill yr enwebiaeth, mae’r cwestiwn addysg yma yn dal i rygnu yng Ngwynedd, a Llais Gwynedd wedi elwa o’r ysgolion,” meddai John Stevenson.

“Fydd hyn yn cyfri yn ei erbyn o gan mai fo ‘di arweinydd y Cyngor, ac yn bendant, dyna fysa’n gallu baglu Liz hefyd.”

Rhaglen ar alcoholiaeth

Bydd rhaglen ar broblemau John Stevenson gyda’r botel ar S4C yr wythnos nesaf fel rhan o gyfres ar alcoholiaeth a chyffuriau.

Bydd yn adrodd hanes ei ‘ddegawd coll’ pan fu’n gaeth i’r botel, yn ymrafael gyda’i rywioldeb ac yn byw ar y stryd.

“Mae’r alcoholiaeth yn broses raddol sy’n digwydd heb i chi sylwi,” meddai John Stevenson. “Cydnabod y broblem ydi’r cam cyntaf i wneud rhywbeth am y peth.”

Ac mae’n credu hefyd fod natur cymdeithas heddiw yn golygu y gall y broblem o alcoholiaeth gynyddu.

“Ddudwn i fod y broblem yn cynyddu, yn sicr. Mae’n lot fwy rhwydd i brynu diod bellach, ac mae ‘na lai o stigma rŵan ynglŷn ag yfed.”

Gadael y Gwter: Stori John Stevenson nos Fawrth nesaf am 9.30 ar S4C.