Robbie ar soffa Graham
‘Take Thatch’…mae’r seren bop Robbie Williams wedi cyfaddef iddo dalu am drawsblanu’r gwallt ar ei ben.
Yn ôl y canwr fe gafodd y trawsblaniad am ei fod “wedi diflasu” ac nad oedd angen y gwallt ychwanegol mewn gwirionedd.
Daw y cyfaddefiad ar raglen Graham Norton ar BBC1 heno, sydd eisoes wedi ei recordio.
Meddai Robbie Williams: “Rydw i wedi byw yn LA am amser maith ac maen nhw’n dweud, ‘Os eisteddwch chi mewn shop barbwr am ddigon hir fe gewch chi dorri eich gwallt’. Wel, os ydych chi’n byw yn Los Angeles am ddigon hir fe fyddwch chi’n cael rhywfaint o lawdriniaeth.
“Rydw i wedi cael gwneud fy ngwallt.”