Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mawr mewn canolfan arddio yn Llaneirwg, Caerdydd neithiwr.

Bu’n rhaid i bobl adael eu cartrefi a chafodd ffyrdd cyfagos eu cau wrth i 46 o ddiffoddwyr tân frwydro’r fflamau yng Nghanolfan Arddio Blooms yn Heol Casnewydd tua 10.30yh neithiwr.

Mae’r rhan fwyaf o’r adeilad wedi cael ei difrodi.

Fe lwyddodd y gwasanaethau brys i gael y tan dan reolaeth ac mae pobl wedi cael dychwelyd i’w cartrefi erbyn hyn.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd y tan.