Yn ôl adroddiadau heddiw, roedd swyddogion cudd-wybodaeth o Brydain wedi cymeradwyo cynlluniau oedd yn caniatáu i Asiantaeth Diogelwch Cenedlaethol (NSA) yr UDA ddadansoddi a storio cyfeiriadu ffon ac e-byst pobl o’r DU.

Mae dogfennau gafodd eu rhyddhau gan Edward Snowden yn awgrymu bod cytundeb wedi cael ei wneud yn 2007 oedd yn caniatáu i’r asiantaeth gadw gwybodaeth nad oedden nhw wedi cael caniatâd i’w stori cyn hynny. Daw’r honiadau yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng y Guardian a Channel 4 News.

Y gred oedd bod trigolion yn y DU, UDA, Canada, Awstralia a Seland Newydd yn cael eu diogelu rhag gwyliadwriaeth gan y gwasanaethau cudd, ond roedd newidiadau chwe blynedd yn ôl yn caniatáu i’r NSA ddadansoddi a chadw rhifau ffôn symudol a ffacs, e-byst a chyfeiriadau rhyngrwyd, yn ôl yr ymchwiliad.