Mae deuddeg o bobol wedi marw a 200 wedi eu hanafu mewn dathliadau gwyllt yn Algeria, wedi i’r wlad ennill lle yn rownd derfynol Cwpan y Byd 2014.

Roedd buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn tîm pêl-droed Burkina Faso yn golygu fod Algeria am gystadlu yn rownd derfynol y twrnament yn Brazil.

Er bod glaw trwm yn disgyn, roedd nifer o gefnogwyr ar y strydoedd a dynion ifanc yn canu cyrn eu ceir yn dilyn y fuddugoliaeth.

Dywedodd llywodraeth Algeria fod pump wedi cael eu lladd ar ôl i fan lithro o’r ffordd i mewn i geunant yn ninas Bejaia gyda phedwar arall yn marw mewn damwain car yn ninas Biskra.

Bu farw tri arall mewn trefi gwahanol ond nid oes manylion wedi eu rhyddhau hyd yn hyn.