Warren Gatland
Mae Ryan Jones, a fydd yn arwain tîm rygbi Cymru yn eu gêm yn erbyn Tonga nos Wener, wedi canmol Warren Gatland am roi cyfle i chwaraewyr ifanc.
O dan reolaeth Warren Galtand, cafodd George North ei gap cyntaf yn 18 oed a Leigh Halfpenny yn 19 oed – y ddau erbyn hyn yn chwaraewyr profiadol sydd rhyngddynt wedi ennill 400 pwynt i Gymru.
Cefnwr Dreigiau Gwent, Hallam Amos, 19, yw’r chwaraewr ifanc diweddaraf i gael ei ddewis gan Gatland i ennill ei gap cyntaf. Bydd yn camu ar y cae mewn crys Cymru am y tro cyntaf nos Wener.
Swil
Yn ôl Ryan Jones, mae Warren Gatland wedi dweud ers tro, “os wyt ti’n ddigon da, rwyt ti’n ddigon hen.”
“Mae o’n rhywbeth rydan ni wedi bod yn swil o’i wneud yn y gorffennol,” meddai Ryan Jones “ond mae o wedi gweithio ac rydyn ni wedi gweld chwaraewyr arbennig yn dod i’r amlwg.”
Mae Gatland wedi gwneud 11 newid i’r tîm a fydd yn wynebu Tonga, sef trydedd gêm Cymru yng nghyfres yr Hydref. Bydd James Hook, Owen Williams a Hallam Amos i’w gweld ar y cae oherwydd anafiadau i chwaraewyr eraill.