Mae James Hook, Owen Williams a Hallam Amos ymysg y chwaraewyr sydd wedi cael eu henwi yn y pymtheg i wynebu Tonga nos Wener yn nhrydydd gêm Cymru yng nghyfres yr Hydref.
Mae Andrew Coombs a Ryan Jones, sydd wedi’i enwi fel capten, hefyd yn y tîm sydd yn dangos amryw o newidiadau o’u buddugoliaeth yn erbyn yr Ariannin ddydd Sadwrn.
Hon fydd cap cyntaf Amos dros Gymru, gydag asgellwr y Dreigiau yn cymryd lle Liam Williams sydd wedi’i orffwys.
Rhodri Jones a Justin Tipuric yw’r unig flaenwyr sydd yn cadw’u lle yn y tîm o’r gêm ddiwethaf, gyda phartneriaeth newydd o Ian Evans a Luke Charteris yn yr ail reng, ac Andrew Coombs a Ryan Jones yn ymuno gyda Tipuric yn y rheng ôl.
Mae Hook yn dechrau’i gêm gyntaf o’r Hydref fel maswr, gyda Rhys Priestland ar y fainc, tra bod Lloyd Williams wedi cael ei ddewis o flaen Rhodri Williams fel mewnwr.
Mae Dan Lydiate a Sam Warburton wedi’u cynnwys ar y fainc, tra bod nifer o enwau eraill megis Mike Phillips, Alun Wyn Jones, Gethin Jenkins a Dan Biggar wedi’u gadael allan o’r 23 yn gyfan gwbl.
Bydd Cymru’n herio Tonga nos Wener yma cyn paratoi i orffen eu hymgyrch yr hydref yma yn erbyn Awstralia wythnos i ddydd Sadwrn, pan fydd disgwyl i nifer o’r sêr mawr ddychwelyd i’r tîm.
Ac fe fydd Tonga’n cynnig prawf caled i Gymru’r wythnos hon, yn ôl y rheolwr Warren Gatland.
“Mae Tonga’n nodweddiadol o dimau ynysoedd y Cefnfor Tawel ac fe fydden nhw’n gorfforol, pwerus a ddim yn cymryd cam yn ôl,” meddai Gatland.
“Rydym ni’n ymfalchïo yn ein gallu i wrthsefyll timau corfforol eraill ac fe fydd yn rhaid i ni wneud hynny nos Wener. Rydym ni wedi gwneud nifer o newidiadau ond mae’n gyfle gwych i’r bechgyn yma ddangos yn union sut y maen nhw’n ymdopi gyda rygbi rhyngwladol.”
Y tîm llawn:
Leigh Halfpenny (Gleision), George North (Northampton), Owen Williams (Gleision), Ashley Beck (Gweilch), Hallam Amos (Dreigiau), James Hook (Perpignan), Lloyd Williams (Gleision); Paul James (Caerfaddon), Ken Owens (Sgarlets), Rhodri Jones (Sgarlets), Luke Charteris (Perpignan), Ian Evans (Gweilch), Andrew Coombs (Dragons), Justin Tipuric (Gweilch), Ryan Jones – capten (Gweilch).
Eilyddion: Emyr Phillips (Sgarlets), Ryan Bevington (Gweilch), Samson Lee (Sgarlets), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (Gleision), Rhodri Williams (Sgarlets), Rhys Priestland (Sgarlets), Jordan Williams (Sgarlets).