Mae capten tîm pêl-droed merched Lloegr wedi dweud ei bod hi’n gobeithio y bydd tîm o Brydain yn cael cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Rio yn 2016.

Dywedodd Casey Stoney  y byddai’n gyfle i hybu pêl-droed merched ymhellach.

Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Lloegr anwybyddu gwrthwynebiad y Gwledydd Cartref pan sefydlwyd timau pêl-droed GB yng nghystadlaethau’r dynion a menywod yn y Gemau yn Llundain y llynedd.

Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas eisoes wedi dweud wrth bwyllgor yn Nŷ’r Arglwyddi nad oes unrhyw fwriad i greu tîm pêl-droed dynion arall yn y dyfodol.

Ond mae’r opsiwn o greu tîm merched dal yn bosibl er gwaethaf gwrthwynebiad parhaus gan Gymdeithasau Pêl-droed Cymru a’r Alban.

Ond mae’r cyfan yn dibynnu ar un o dimau gwledydd Prydain yn mynd drwodd i Gwpan y Byd Merched yn 2015.

“Fe wnaeth y Gemau Olympaidd llynedd ddangos yr hyn all llwyfan mawr fel y Gemau Olympaidd wneud ar gyfer ein camp,” meddai Casey Stoney.

“Dydyn ni ddim yn cael sylw byd-eang ar unrhyw adeg arall ac fe wnaeth o newid y ffordd roedd pobl yn gweld pêl-droed merched yn y wlad hon.

“Dyw’r dynion ddim angen y sylw – yr Uwch Gynghrair yw un o’r pencampwriaethau chwaraeon mwyaf poblogaidd yn y byd. Ond mae angen tîm pêl-droed merched yn Rio. Mae’n hynod bwysig ein bod ni’n cael un i godi’r proffil.”