CPD Y Felinheli
Fe wnaeth CPD Y Felinheli hi’n bum buddugoliaeth yn olynol wrth iddyn nhw drechu Ail Dîm Pwllheli yn y Rec yng Nghynghrair Caernarfon a’r Cyffiniau ddydd Sadwrn.

3-0 oedd y sgôr terfynol i hogia’ Felin, gyda goliau gan Aled Hughes, Iwan Owen a James Hatton – yr un sgôr ag y gwnaethon nhw drechu Pwllheli yn y gwpan dair wythnos yn ôl.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Felinheli i drydydd yn y gynghrair y tu ôl i Ail Dîm Llanberis ac Ail Dîm Llanrug, gyda Felinheli yn dal tair gêm o fantais ar y ddau dîm arall.

Dechreuodd Felinheli’n gryf i ffwrdd ym Mhwllheli, a gydag ugain munud ar y cloc llwyddodd pas Tom Davies ganfod Iwan Owen, gyda’r ymosodwr ifanc yn rhedeg i mewn i’r cwrt cosbi cyn rhwydo am y gôl agoriadol.

Cafwyd ymateb gan y tîm cartref yn dilyn hynny wrth iddyn nhw ddechrau taclo’r galetach, ac fe gafodd y ddau dîm gyfleoedd pellach wrth i’r hanner fynd yn ei flaen.

Ond Felin ddaeth agosaf at sgorio gôl arall, gyda chic gornel yn cael ei gyrru i mewn gan y prif sgoriwr Gruff John, a Carwyn Dafydd yn ei phenio fodfeddi heibio i’r postyn.

Ar ôl yr hanner daeth Y Felinheli allan ar dân, gan orfodi golwr Pwllheli i wneud llu o arbediadau, a gyda’r pwysau’n cynyddu roedd hi’n ymddangos mai mater o amser oedd hi tan y byddai ail gôl yn dod.

A dod a wnaeth hi, gyda Davies yn hyrddio i mewn i’r cwrt cosbi cyn cael ei lorio gan dacl beryglus – er mai dim ond cerdyn melyn gafodd yr amddiffynnwr – ac Aled Hughes yn dyblu’r fantais o’r smotyn.

Parhaodd Y Felinheli i roi pwysau ar eu gwrthwynebwyr, gydag Aled Hughes yn taro’r postyn gydag ergyd uchelgeisiol o agos i 30 llathen, a Daniel Hughes yn troi a saethu dim ond i weld ei ergyd yntau’n taro’r trawst.

Ac yn nes ymlaen roedd Gruff John o fewn modfeddi i orffen symudiad perffaith gan Felinheli, gyda’r golwr Rhys Edwards, James Hatton a Daniel Hughes yn cyfuno i greu’r cyfle ond yr ymosodwr yn taro’i ergyd gyffyrddiad gyntaf heibio i’r postyn.

Ond funudau o’r diwedd roedd Hatton yno i selio’r gêm, gan gyrraedd i’r lle iawn ar yr adeg iawn i danio’r bêl i mewn o ddwy lathen, ar ôl i olwr Pwllheli arbed ergyd Davies.

Tîm Felinheli

Rhys Edwards; James Hatton, Dylan Owen, Martin Hughes, Mathew Hughes, Ifan Emyr; Aled Hughes, Gwion Tegid, Siôn Parry, Tom Davies; Carwyn Dafydd, Daniel Hughes, Gruff John, Iwan Owen.