Gareth Bale
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi dweud fod angen i Gareth Bale ddysgu i fyw gyda’r profiad o dimau yn ei dargedu bellach.
Roedd Coleman yn cyfeirio at nifer o achosion yn ystod y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a’r Ffindir ddydd Sadwrn pan gafodd Bale driniaeth nerthol oddi wrth y gwrthwynebwyr, gan gynnwys tacl hwyr gan Jere Uronen yn gynnar yn y gêm a arweiniodd at Bale yn derbyn triniaeth.
Chwaraeodd Bale y 90 munud llawn wrth i Gymru gael gêm gyfartal 1-1 diolch i gôl Andy King, ond ni chafodd ei argraff arferol gyda’r Ffindir yn wyliadwrus tu hwnt ohono.
“Bydd yn rhaid i ni ddod i arfer gyda hynny,” meddai Coleman. “Mae o dan hyd yn oed mwy o bwysau bellach ac mae’n rhaid iddo yntau ddod i arfer, ond yn sicr mae ganddo’r cymeriad i wneud hynny.
“Unwaith mae’n hapus mae’n mwynhau ei bêl-droed. Pobl eraill sydd wedi newid tuag ato fe, ddim fe sydd wedi newid. Mae’n fachgen hyfryd, ac mae’n rhaid iddo gymryd [yr holl sylw] fel canmoliaeth.”
Camau cadarnhaol
Dywedodd Coleman hefyd ei fod wedi gweld llawer o bethau cadarnhaol dros y dyddiau diwethaf sy’n gwneud iddo deimlo’n obeithiol ynglŷn â’r ymgyrch nesaf.
Ond roedd hefyd yn gweld gwallau yng nghanolbwyntio’r tîm, ar ôl iddyn nhw ildio gôl hwyr, yn ogystal â’r angen i ddelio’n well gyda thimau corfforol.
“Dwi wedi gweld llawer o elfennau positif, ac wrth edrych ar y garfan dwi’n reit optimistaidd,” meddai. “Ond mae’n rhaid i ni fel tîm fod ychydig yn fwy ‘streetwise’, ychydig yn fwy cas ar adegau.”
Cadarnhaodd Coleman eu bod yn ceisio trefnu tair gêm gyfeillgar arall rhwng nawr a dechrau’r ymgyrch nesaf ym mis Medi 2014 ar gyfer Ewro 2016 yn Ffrainc, gan gynnwys un ym mis Mawrth ac o bosib dwy yn yr haf.
Ond fe ddywedodd hefyd fod posibilrwydd y byddai Cymru yn trafod gyda Real Madrid ynglŷn â rhyddhau Bale o ddyletswydd ryngwladol ar gyfer o leiaf un o’r gemau er mwyn arbed ei ffitrwydd a chadw cysylltiadau da gyda’i glwb.
“Os yw’n ffit wedyn grêt, fe fyddwn ni’n disgwyl iddo fod yno. Ond os yw wedi blino, efallai y gwnawn ni ei orffwys,” meddai Coleman. “Mae hon yn sgwrs fydd raid i ni gael gyda Real Madrid.”
Cadarnhaodd Coleman hefyd na fyddai’n edrych i benodi hyfforddwr arall i’w dîm yn dilyn ymadawiad John Hartson am resymau gwaith a theulu.
Penbleth anaf Ramsey
Roedd Aaron Ramsey’n un o’r ddau chwaraewr a dynnodd allan o’r tîm ar y funud olaf, gyda James Collins hefyd yn absennol gydag anaf.
Cadarnhaodd Coleman yn y gynhadledd yn dilyn i gêm fod Ramsey yn dioddef o’r ffliw, a’i fod wedi cyrraedd carfan Gymru o Arsenal gyda’r salwch.
Mae nifer o chwaraewyr eraill Arsenal wedi bod yn sâl am yr un rheswm dros yr wythnos diwethaf, ac fe ddywedodd Coleman fod Ramsey wedi methu a gorffen yr ymarfer nos Wener oherwydd yr anhwylder.
Ond wrth drydar ddoe, dywedodd Ramsey mai anaf i linyn y gar oedd ganddo, ac mai dyma pam y methodd y gêm.
“Siomedig i fethu’r gêm ddoe, roedd llinyn y gar yn teimlo’n dynn ar ôl ymarfer. Staff meddygol ddim eisiau cymryd y risg. Fyddai’n iawn ar gyfer y penwythnos,” oedd y neges.
Mae Arsenal yn herio Southampton yn yr Uwch Gynghrair ar y penwythnos.