Y fflam Olympaidd
O’r swyddi sydd wedi eu creu yn sgil y Gemau Olympaidd yn Llundain, ychydig tros 1.5% sydd wedi dod i Gymru yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi.
Dywed yr adroddiad mai dim ond 498 o’r 31,000 o swyddi a oedd yng Nghymru, er gwaetha’ buddsoddiad cyfan o £2.5 biliwn.
Yn ôl yr adroddiad gan Bwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar Etifeddiaeth y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, mae De Ddwyrain Lloegr wedi elwa ar draul gwledydd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig.
Llundain sydd wedi elwa fwyaf yn dilyn y gemau gyda 15,000 o bobol wedi cael swyddi newydd yn y brifddinas, ond dim ond saith swydd sydd wedi eu creu yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr.
‘Testun pryder’
Dywed y pwyllgor fod y gemau wedi bod yn ‘llwyddiant ysgubol’ ond bod y gwahaniaethau rhanbarthol yn “destun pryder” ac maen nhw wedi annog Llywodraeth y DU i benodi Gweinidog gyda chyfrifoldeb i greu buddiannau o waddol y Gemau.
Yn ôl yr adroddiad, does “dim llawer o dystiolaeth” fod mwy o bobol wedi dechrau cymryd rhan mewn chwaraeon ers i’r gêmau orffen.
Derbyniodd y pwyllgor dystiolaeth gan Faer Llundain, Boris Johnson, prif drefnydd y Gemau, yr Arglwydd Coe a’r Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Maria Miller, ymysg eraill.
Bonws i swyddog Olympaidd – stori fan hyn.