Saracens 51–10 Scarlets
Cafodd y Scarlets gweir go iawn yn y Cwpan LV brynhawn Sul wrth iddynt herio’r Saracens ym Mharc Allianz. Sgoriodd y tîm cartref dri chais ym mhob hanner mewn buddugoliaeth gyfforddus.
Roedd y Saracens bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen wedi dim ond deuddeg munud diolch i geisiau’r blaenasgellwr, Matt Hankin, a’r asgellwr, Jack Wilson, ynghyd â dau drosiad Ben Spencer.
Cyfnewidiodd Josh Lewis a Spencer gic gosb yr un wedi hynny cyn i’r Scarlets daro’n ôl gyda chais i Daniel Thomas. 17-10 yn dilyn trosiad Lewis.
Ychwanegodd Spencer ddwy gic gosb wedi hynny i roi dwy sgôr rhwng y timau unwaith eto, ac roedd y tîm cartref ym mhell ar y blaen erbyn yr egwyl diolch i gais y blaenasgellwr, Jackson Wray. 30-10 ar yr egwyl.
Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel i’r tîm cartref yn gynnar yn yr ail gyfnod yn dilyn cais y bachwr, Jamie George.
A rhwbiwyd halen yn y briw yn y deg munud olaf pan diriodd Nathan Earle a Tim Streather ddau gais arall i selio buddugoliaeth hynod gyfforddus.
.
Saracens
Ceisiau: Matt Hankin 7’, Jack Wilson 12’, Jackson Wray 39’, Jamie George 47’, Earle 72’, Streather 78’
Trosiadau: Ben Spencer 7’, 12’, 39’, 47’, Mordt 72’, 78’
Ciciau Cosb: Ben Spencer 22’, 30’, 34’
.
Scarlets
Cais: Daniel Thomas 25’
Trosiad: Josh Lewis 25’
Cic Gosb: Josh Lewis 20’