Y Rhyl 2–1 Gap Cei Connah

Roedd dwy gôl hanner cyntaf Jason Oswell yn ddigon i ennill y gêm i’r Rhyl wrth iddynt groesawu Gap Cei Connah i’r Bell View o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sul.

Fe wnaeth Gary O’Toole dynnu un yn ôl i’r ymwelwyr yn hwyr yn y gêm ond daliodd Y Rhyl eu gafael ar y tri phwynt.

Hanner Cyntaf

Roedd yr hanner cyntaf yn eithaf cyfartal o ran tir a meddiant ond does dim dwywaith mai’r Rhyl a gafodd y gorau o’r cyfleoedd.

Aethant ar y blaen wedi ugain munud pan dderbyniodd Oswell bas dreiddgar Michael Walsh cyn mynd o amgylch y gôl-geidwad, Terry McCormick, a rhwydo.

Cafodd y blaenwr ifanc gyfle i ddyblu’r fantais yn fuan wedyn yn dilyn gwaith da Paul McManus ond sodlodd y bêl heibio’r postyn.

Fe wnaeth Mark Cadwallader ganfod cefn y rhwyd ond roedd yn camsefyll.

Daeth yr ail gôl o’r diwedd ddau funud cyn yr egwyl. Dyfarnwyd cic o’r smotyn i’r tîm cartref yn dilyn llawiad Jack Rowlands ac er i McCormick arbed cynnig McManus o ddeuddeg llath, Oswell oedd y cyntaf i ymateb gyda’i ail gôl o’r gêm.

Ail Hanner

Digon tebyg oedd yr ail hanner hefyd, brwydr gyfartal ar y cyfan ond gwell cyfleoedd i’r Rhyl.

Arbedodd McCormick gynnig Forbes cyn i Alex Ramsay wneud arbediad da yn y pen arall i atal ergyd Rowlands o bellter.

Cafodd Oswell ddau gyfle i gwblhau ei hatric wedi hynny ond anelodd y cyntaf yn syth at McCormick a’r ail heibio’r postyn,

Roedd Cei Connah yn ôl yn y gêm ddeg munud o’r diwedd pan sgoriodd O’Toole wedi i Danny Desormeaux benio pêl hir Paul Mooney i’w lwybr yn y cwrt cosbi.

Munudau olaf nerfus i’r Rhyl felly ond y tîm cartref a gafodd y cyfleoedd gorau mewn gwirionedd wrth i Oswell wastraffu dau gyfle euraidd arall. Anelodd un ergyd ym mhell dros y trawst ac er iddo wneud yn well gyda’r ail fe gafodd ei hatric ei hatal gan y postyn.

Ymateb

Greg Strong, rheolwr Y Rhyl

“Roedd hon yn fuddugoliaeth fawr i ni. Yn dilyn canlyniadau ddoe roedd hi’n bwysig ein bod ni’n aros ymysg y timau eraill [sy’n brwydro am y chwech uchaf].”

“Roedd y bois yn wych yn yr hanner cyntaf ac roeddem ni’n llawn haeddu’r fuddugoliaeth yn y diwedd.”

Mae’r canlyniad yn codi’r Rhyl i’r chweched safle tra mae Gap Cei Connah’n llithro i’r nawfed safle.

.

Y Rhyl

Tîm: Ramsay, Woodward, Benson, Rimmer, Astles, Powell, Cadwallader (Roberts 88’), Walsh, McManus, Forbes (Bathurst 62’), Oswell (Lewis 89’)

Goliau: Oswell 21’, 43’

.

Gap Cei Connah

Tîm: McCormick, Rowntree, McGregor, Rowlands, Mooney, Jones (Forde 63’), Desormeaux, Edwards, Hayes, O’Toole, Everall

Gôl: O’Toole 81’

Cardiau Melyn: O’Toole 42’, McGregor 43’, C. Jones 62’

.

Torf: 689