CYMRU 1-1 FFINDIR – SGÔR TERFYNOL

19.56 – Dyna hi felly, un yr un diolch i goliau King a Riski. Diolch am ymuno a ni heno!

19.53 – A dyna’r chwib olaf – Cymru’n ildio yn y munudau olaf ac mae’n gorffen yn gyfartal. Canlyniad siomedig yn y diwedd felly, ar ôl iddi edrych fel y byddai Coleman yn dathlu’i gytundeb newydd gyda buddugoliaeth.

19.51 – Torcalon i Gymru wrth i bas wych ryddhau Riku Riski lawr y canol, ac yntau’n gynt na Williams a Ricketts i roi’r bêl heibio i Hennessey!

GÔL I’R FFINDIR!

19.49 – Newid arall i Gymru – Owain Tudur Jones ar yn lle Joe Allen. Allen sydd wedi cael ei enwi’n seren y gêm, ac yn haeddiannol hefyd. Dwi ddim yn cofio’i weld yn rhoi’r bêl i ffwrdd. I mewn i’r pedair munud o amser anafiadau.

19.47 – Tempo wedi disgyn ychydig nawr, er mai dim ond gôl sydd ynddi. Y Ffindir heb fod yn cymaint o fygythiad ers i Pukki fynd oddi ar y maes, er bod Riski yn parhau i ofyn cwestiynau o amddiffyn Cymru.

19.43 – Hal Robson-Kanu yn gadael y maes, David Cotterill yn ei le. Mae wedi chwarae’n dda heno, ac wrth gwrs wedi creu gôl Andy King. Dim un o’r capiau newydd wedi dod i’r maes eto, fodd bynnag.

19.40 – Maint y dorf heno yw 11,809. Ddim yn ffôl o ystyried mai gêm gyfeillgar yw hi – mae hi’n fwy na’r un yn erbyn Macedonia fis diwethaf. Ond wrth gwrs, byddai’n braf gweld llawer mwy. Llai na deg munud yn weddill.

19.39 – Ergyd arall i Bale, tro yma yn syth am y golwr. Mae o eisiau gôl heno dwi’n meddwl …

19.36 – Bale yn taro ergyd heibio i’r postyn o ymyl y cwrt cosbi, mae’n agosau! Mae Sam Vokes yn edrych yn ddigon siarp ers dod i’r maes hefyd gan gau i lawr a ennill peniadau – mae wedi bod yn sgorio digon i Burnley’r tymor hwn wrth gwrs. Nawr mae’n gerdyn felyn i’r sgoriwr King.

19.32 – Cyfle arall i Riski, ond mae’n taro ochr y rhwyd gyda Hennessey yn edrych yn gyfforddus. Cic rydd i’r Ffindir o’r dde, ond dim byd yn dod ohoni.

19.30 – Dau amddiffynwr newydd ar y cae i Gymru, wrth i Ashley Richards a Ben Davies ddod ymlaen yn lle Gunter a Taylor.

19.28 – Gunter yn chwipio pêl arall i’r cwrt cosbi ond neb yn ei chyraedd! Newidiadau eraill i’r Ffindir wrth i Perparim Hetemaj ddod i’r maes yn lle Rasmus Schuller, a’r eilydd Lampi gael ei eilyddio am Raitala. Mae’r chwaraewyr yn cymryd y cyfle i gael diodydd, gyda Coleman yn cael gair gydag ambell un.

19.23 – Cymru’n gwrthymosod, a Bale bron a rhyddhau King am gyfle am ei ail o’r noson. Y bêl yn cael ei chlirio, Cymru’n ennill cic rydd ar y chwith, ond ddaw hi i ddim.

19.22 – Riski’n tanio ergyd o ochr dde y cwrt cosbi, arbediad da gan Hennessey! Tri newid nawr, Moisander a Pukki yn gadael y maes i’r Ffindir, gyda Pasanen a Hamalainen yn dod arno, a Sam Vokes ar yn lle Simon Church i Gymru.

19.20 – Gyda 59 munud ar y cloc felly, King yn rhoi Cymru ar y blaen. Aaron pwy?

19.18 – Cymru 1-0 ar y blaen, symudiad gwych i lawr yr asgell chwith wrth i Robson-Kanu chwarae i Ledley a’i derbyn hi nôl, cyn ei chroesi hi i Andy King am beniad syml o’r cwrt chwech!

19.16 – GÔL I GYMRU!

19.15 – Felly’r dyfarnwr ddim yn rhoi‘r gic gosb am drosedd ar Church – un yn sicr i’w dadansoddi ar ôl y gêm.

19.14 – A Bale yn torri mewn o’r dde gydag ergyd arall, tro yma’n gorfodi’r golwr i arbed. Cymru’n dechrau cynyddu’r pwysau.

19.12 – Church yn cael ei lorio yn y cwrt cosbi – dim cic gosb! Ffindir yn lwcus tu hwnt yn fanno, roedd hi’n edrych fel petai Lampi wedi’i wthio yn ei gefn. Lle gan Gymru i gwyno yn sicr!

19.11 – Dechrau weddol dawel i’r ail hanner hyd yn hyn, ond mae Pukki’n parhau i edrych yn beryglus. Bydd rhaid i Ricketts fod yn wyliadwrus.

19.07 – Cic rydd i’r Ffindir … ond Eremenko yn ei tharo i’r entrychion.

19.03 – Dau newid i’r Ffindir, gyda Joona Toivo ar am Juhani Ojala, a Veli Lampi ar am Kari Arkivuo. Dim newid i Gymru eto.

Ail hanner yn dechrau

Hanner amser

19.00 – Gan gofio mai gêm gyfeillgar yw hon, fuaswn i ddim yn synnu i weld newidiadau dros yr egwyl. Fydd Owain Fôn Williams yn cael ei gap cyntaf yn y gôl o’r diwedd?

18.58 – Wps, mae’r boi oedd yn rhedeg y gystadleuaeth ’na newydd ddod nol a dweud fod ’na gamgymeriad wedi bod gyda’r ciciau. O wel, does neb fel petaen nhw’n poeni ormod.

18.55 – Mae ’na gystadleuaeth ciciau o’r smotyn rhwng cefnogwyr Cymru ar y cae nawr. Dau gefnogwr Lerpwl a un Evertonian di camu fyny, di’r dorf ddim yn rhy bles efo hynny! Ac mae un newydd sgorio ‘paneka’ bach digywilydd, chwarae teg! Yr Evertonian sy’n ennill.

18.52 – Nid yr hanner cyntaf gwaethaf o bell ffordd, ddywedwn i, ond chafodd yr un o’r ddau golwr eu profi rhyw lawer. Mae Cymru’n sicr yn edrych yn beryglus ar adegau, ond dyw Bale heb gael cymaint o gyfle eto ac y byddai wedi gobeithio. Allen yn edrych yn daclus iawn yng nghanol y cae ar ei ddychweliad i dîm Cymru, ond mae absenoldeb Aaron Ramsey yn amlwg. Byddai fflach o’i ddoniau ef yn sicr wedi gwneud gwahaniaeth.

Diwedd yr hanner cyntaf

18.47 – A 0-0 yw hi wrth i’r dyfarnwr chwythu’i chwiban am hanner amser.

18.46 – Yr hanner cyntaf yn tynnu tua’i derfyn, a’r cyfleoedd yn brin i’r ddau dîm. Eremenko yn taro ergydiad arall dros y trawst o ymyl y cwrt. Munud yn ychwanegol.

18.42 – Cic gornel i’r Ffindir, ond peniad i ffwrdd.

18.40 – Bale sy’n camu fyny … ond syth i’r wal.

18.39 – Cerdyn felyn i Tim Sparv am lorio Andy King. Mae’r gic rydd tua 30 llathen o’r gôl …

18.38 – A Bale eto’n gwibio lawr yr asgell chwith, croesiad wych ond neb yno i’w chyfarfod!

18.37 – A chic rydd arall i Gymru ar yr asgell chwith nawr, wrth i Arkiuvo ddal Bale yn ôl. Robson-Kanu yn ei phenio hi yn y postyn pellaf, arbediad gwych gan y golwr! Ond mae ’na drosedd yn erbyn Cymru beth bynnag.

18.35 – Cymru’n dechrau rheoli’r gêm yn fwy nawr, ond y Ffindir yn dal i beri problemau.

18.31 – Owain Tudur Jones, Emyr Huws a Ben Davies yw’r tri sydd yn cynhesu i fyny o’n blaenau ni – y tri gyda chysylltiad ag Abertawe, wrth gwrs – tybed a welwn ni nhw wedi’r egwyl?

18.30 – Ffindir yn cael cyfle nawr, gyda Jere Uronen yn torri mewn o’r chwith ond yn ei tharo hi drosodd.

18.27 – Gwaith da gan Gunter i ennill cic gornel ar y dde i Gymru … ac mae Bale yn ei flachio ar draws y cwrt chwech gan fethu pawb! Cyfle euraidd i Gymru’n fanno, dylai rhywun fod wedi cael troed arni.

18.26 – Ac mae’n gic rydd i Gymru nawr wrth i Taylor gael ei lorio ar yr asgell chwith, ddim yn bell o’r cwrt cosbi. Bale sy’n ei chymryd, ond mae’n cael ei phenio i ffwrdd.

18.24 – Ymgais arall, gydag ergyd gan Ledley ar y gôl yn taro Simon Church.

18.23 – Ac mae Hal Robson-Kanu’n ceisio ei efelychu gydag ergyd o ymyl y cwrt cosbi, ond dros y trawst aiff honno.

18.22 – Ergydiad gyntaf Gareth Bale, gan dorri i mewn o’r dde a’i thanio hi! Yn anffodus mae hi allan am dafliad …

18.20 – Y Ffindir sy’n cael y gorau o’r meddiant ar hyn o bryd, ond mae Cymru’n edrych yn beryglus wrth wrthymosod, gyda Bale a Robson-Kanu yn cyfnewid o un asgell i’r llall.

18.19 – Cic gornel gyntaf i’r Ffindir, ond mae pawb yn y cwrt cosbi’n ei methu hi.

18.18 – Cyfle gwych i’r Ffindir yn y fan yna. Gormod o le gan Teemu Pukki i droi yn y cwrt cosbi.

18.16 – Cymru’n dechrau edrych yn beryglus, gyda chroesiad da gan Gunter i mewn i’r cwrt cosbi’n cael ei methu. Riski wedi cael ergydiad yn gynharach i’r Ffindir gafodd ei atal gan Ashley Williams. Ond nawr mae Pukki newydd daro’r postyn i’r Ffindir!

18.11 – Cic gornel gynta’r gêm i Gymru, ond Ledley’n ei phenio hi i mewn i dorf o chwaraewyr ac mae’n cael ei chlirio.

18.09 – Rhywfaint o sŵn gan y Barry Horns a’r cefnogwyr yn eisteddle Canton hyd yn hyn. Bale yn ôl ar y maes.

18.07 – Bale i lawr wedi anafu nawr, ar ôl cael ei ddal wrth ddwyn y bêl oddi wrth Uronen gyda’r Ffindir yn ymosod. Mae’n ôl ar ei draed ond yn hercian oddi ar y maes am driniaeth pellach.

18.05 – Bale yn methu gyda’i rediad cyntaf lawr yr asgell dde – ac yn hercian ychydig ar ôl y dacl yna.

18.03 – Y Ffindir gyda’r ymosodiad cyntaf, ond croesiad o’r chwith gan Pukki’n dod i ddim.

18.00 – A dyma ni gyda’r gic gyntaf, Cymru’n dechrau ac yn ymosod tuag at eisteddle Grange.

Gêm ar fîn cychwyn

17.59 – A digon uchel yw Hen Wlad Fy Nhadau wedi’i chanu gan Carrie Thomson hefyd. Anodd dweud pa mor uchel oedd y dorf o’i gymharu – mae’r uchelseinydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn sicr yn gweithio’n dda!

17.56 – Anthemau’n dechrau nawr …

17.55 – Felly, ai hwn fydd dechrau cyfnod newydd i Gymru a’r rheolwr Chris Coleman, sydd newydd arwyddo estyniad o ddwy flynedd i’w gytundeb?

17.50 – Mae ’na ambell i enw newydd ar y fainc i Gymru hefyd, gydag Emyr Huws, Owain Fôn Williams, Rhoys Wiggins a Daniel Ward i gyd yn gobeithio gwneud eu hymddangosiadau cyntaf dros Gymru heno.

17.48 – Llai na chwarter awr i fynd tan y gic gyntaf, gyda chefnogwyr yn gwneud eu ffordd i mewn i’r stadiwm yn araf deg. Tybed os fydd maint y dorf yn cyrraedd 10,000 heno? Faint fydd wedi mentro dod lawr y ffordd o Stadiwm y Mileniwm ar ôl gwylio Cymru’r chwalu’r Ariannin yn y rygbi?

17.45 – Bloedd fawr i groesawu Gareth Bale wrth i dîm Cymru gael ei chyhoeddi – fel ag y gafwyd gan y cefnogwyr oedd yn disgwyl tîm Cymru oddi ar y bws yn gynharach.

17.43 – Mae’r dyfarnwr Sebastien Delferiere a’i gynorthwywyr heno, gyda llaw, o Wlad Belg  – ble cafodd Cymru ganlyniad da gyda gêm gyfartal y mis diwethaf, wrth gwrs.

17.41 – Mae’r chwaraewyr bellach allan yn ymarfer ar y cae, gyda’r Ffindir yn y gôl o flaen eisteddle Grange, a Chymru o flaen y Canton. Bydd rhaid i Gymru gadw llygad ar ddau o sêr y Ffindir heno, y capten Nicklas Moisander o Ajax a Roman Eremenko o Rubin Kazan.

17.30 – Tîm y Ffindir heno: Hradecky, Mosiander, Ojala, Eremenko, Pukki, Riski, Arkiuvo, Sparv, Schuller, Uronen, Ring

17.29 – Mae Neil Taylor hefyd wedi cael ei ddewis o flaen Ben Davies fel cefnwr chwith, un o’r penderfyniadau anodd yr oedd rhaid i Chris Coleman wneud mae’n siwr. Mae Simon Church hefyd yn cadw’i le yn y tîm ar ôl y ddwy gêm ddiwethaf, gyda Sam Vokes ar y fainc.

17.26 – Mainc Cymru, gyda llaw, yw: Fôn Williams, Huws, Richards, Cotterill, Tudur Jones, Easter, B Davies, Vokes, Wiggins, Ward

17.23 – Felly fel y gwelwch chi, dim Aaron Ramsey na James Collins, y ddau yn absennol oherwydd salwch ac anaf – Andy King a Sam Ricketts sydd yn cymeryd eu lle yn yr 11 cyntaf.

17.20 – Yn gyntaf, tîm Cymru heno: Hennessey, Gunter, Taylor, Ricketts, Williams, Ledley, Allen, King, Robson-Kanu, Church, Bale

17.16 – Helo a chroeso i’r blog byw o Stadiwm Dinas Caerdydd gyda fi, Iolo Cheung, wrth i Gymru baratoi i herio’r Ffindir heno.