Mae gyrwyr yng Ngogledd Cymru wedi cael trafferthion ar y ffyrdd bore ma oherwydd y tywydd.
Mae ‘na adroddiadau fod hyd at ddwy fodfedd o eira wedi disgyn ar ffordd yr A5 rhwng Maerdy a Phentrefoelas ger Corwen, Sir Ddinbych.
Mae Rhybudd Melyn, sy’n rhybuddio pobl i fod yn ymwybodol, mewn grym gan y Swyddfa Dywydd.
Maen nhw’n dweud y gallai mwy o eira ddisgyn yn y canolbarth nos Fawrth yn enwedig ar dir uchel dros 200 metr.
Gwrthdrawiad
Mae trafferthion wedi bod ar y ffyrdd mewn mannau eraill hefyd. Mae un lôn o’r A55 ar gau yng Nghonwy ger cyffordd 19 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd.
Mae’r A4212 ar gau yn rhannol ar ôl i bedwar cerbyd dorri lawr rhwng Craig y Fron yn y Bala a’r A470 yn Nhrawsfynydd.
Yn ne Cymru mae’r A4061 Bwlch y Rhigos ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng yr A4059/A465 (Cylchdro Rhigos a Hirwaun) a’r B4522 (Treherbert).