Bydd cynlluniau ar gyfer glofa agored newydd yng Nghwm Rhymni yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn ddiweddarach heddiw.
Mae cwmni Miller Argent eisiau codi pwll glo Nant Llesg ger Ffos y Fran, Rhymni gan greu hyd at 239 o swyddi llawn amser yno.
Dywed y cwmni y byddan nhw’n buddsoddi £13m yn y pwll yn flynyddol ac yn creu cronfa i fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol.
Ond mae’r grŵp ymgyrchu Cynghrair y Cymoedd Gwyrdd wedi comisiynu ymchwil gan Brifysgol Caerdydd sy’n honni y gallai’r lofa “effeithio cynlluniau buddsoddi mewnol eraill yn y dyfodol”.
Cyngor Caerffili fydd yn penderfynu a ddylai’r cynllun gael ei gymeradwyo ai peidio.
Mae’r cyngor yn cynnal cyfres o arddangosfeydd sy’n ymwneud â’r cynllun.
- Dydd Mawrth, 19 Tachwedd – Canolfan Gymunedol Abertyswg.
- Dydd Mercher, 20 Tachwedd, Canolfan Gymunedol Rhymni.
- Dydd Mawrth 26 Tachwedd, Canolfan Gymunedol Fochriw.
- Dydd Iau, 28 Tachwedd, Neuadd Eglwys Gymunedol Elim, Pontlotyn