Mae nifer y rhai sydd wedi marw mewn llifogydd yn  dilyn stormydd ar ynys Sardinia wedi cynyddu i 14.

Dywedodd Maer Olbia, Gianni Giovanelli bod y ddinas wedi’i difrodi gan y storm, gyda phontydd wedi cwympo oherwydd y llifogydd a’r dŵr yn cyrraedd 10 troedfedd (3m) mewn mannau.

Yn ôl Llywodraethwr Sardinia Ugo Cappellacci, mae 14 o bobl bellach wedi marw o ganlyniad i’r llifogydd, gan gynnwys teulu o bedwar. Bu farw tri o bobl ar ôl i’w car gael ei lusgo i ffwrdd yn y llifogydd.