Bydd adolygiad o addysg uwch a’r modd y mae’n  cael ei ariannu yng Nghymru yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

Nod yr adolygiad, a gafodd ei gyhoeddi gan Weinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Huw Lewis, nos Lun, yw rhoi cyfle i fwy o fyfyrwyr fynychu addysg uwch ac asesu cyllid myfyrwyr yn y dyfodol.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar nifer o faterion gan gynnwys polisïau ffioedd dysgu, trefniadau cyllid myfyrwyr, polisi ariannu addysg uwch dros y ffin a swyddogaeth y Cyngor Ariannu Addysg Uwch  o ran darparu cyllid myfyrwyr.

Is-ganghellor Prifysgol Aberdeen, Syr Ian Diamond fydd yn arwain yr adolygiad fydd yn dechrau yn 2014.

Bydd yn cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru yn dilyn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r adolygiad gan ddweud bod Llywodraeth Cymru  wedi gorfod “cydnabod bod eu polisi cyfredol yn anghynaladwy.”

‘Codi disgwyliadau myfyrwyr’

Dywedodd Huw Lewis: “Dwi ddim yn fodlon bod mesurau i gynyddu nifer y rhai sy’n derbyn addysg uwch yn gynhwysol nac yn ddigon eang.

“Rwy’n credu y dylen ni fod yn ystyried, mewn modd mwy cynaliadwy, adeiladol a phenderfynol, perthynas prifysgolion gyda’u cymunedau a chodi disgwyliadau’r myfyrwyr hynny na fyddai wedi meddwl eu bod yn ‘addas ar gyfer prifysgol’.

“Rydym yn credu fod gennyn ni’r system gyllid myfyrwyr tecaf erioed yng Nghymru. Yn ein barn ni fe ddylai mynediad i addysg uwch ddeillio o allu unigolion i lwyddo nid ar eu gallu i dalu ffi.”

Ar hyn o bryd mae myfyrwyr o Gymru yn talu rhyw £3,400 y flwyddyn tuag at eu ffioedd dysgu gyda Llywodraeth Cymru yn talu’r gweddill.

“Mae ein polisi ffioedd dysgu yn boblogaidd, fforddiadwy a chynaliadwy ond mae’n amser i ni bwyllo gan ystyried y dyfodol am ein bod yn wynebu newidiadau cyflym, anrhagweladwy yn y sector.”

‘Symud incwm o brifysgolion Cymru’

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas: “Mae Plaid Cymru wedi amau pa mor fforddiadwy yw’r system bresennol ers amser oherwydd ei fod yn dibynnu ar fyfyrwyr o wledydd eraill y DU yn astudio yng Nghymru er mwyn ei gynnal.

“Felly rwy’n hapus bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac yn cymryd camau i ddod i’r afael â’r sefyllfa.

“Golygir y polisi presennol bod Llywodraeth Cymru’n sybsideiddio myfyrwyr i astudio ble bynnag maen nhw eu heisiau o fewn y DU gan symud incwm o brifysgolion Cymru.

“Mae hyn yn golygu fod prifysgolion Cymru yn colli adnoddau gwerthfawr tra mae prifysgolion eraill yn y DU yn cael eu sybsideiddio gan Lywodraeth Cymru.

“Yn ôl ffigyrau diweddaraf Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae £34.7m yn mynd i dalu cost myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru ond yn astudio mewn sefydliadau yn y DG y tu allan i Gymru.

“Mae’n iawn fod hwn yn dod i ben.”

‘Ddim yn fforddiadwy’

Cytunodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Aled Roberts, fod y sefyllfa bresennol yn ‘anghynaladwy’.

Ychwanegodd fod amserlen a gafodd ei osod gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr adolygiad yn ‘sinigaidd’.

Dywedodd: “Fydd gan bobl Cymru ddim syniad am bolisi’r Blaid Lafur  ynglŷn ag addysg uwchradd yng Nghymru cyn etholiadau’r Cynulliad.

“Mae gan bob plaid ddyletswydd i amlinellu eu cynigion ar gyfer addysg uwchradd cyn yr etholiadau hyn.

“Mae ‘na amheuaeth ddifrifol hefyd ynghylch pryd fyddai polisi ariannu newydd yn cael ei gyflwyno. Mae’n edrych yn debygol i mi na fyddai hynny’n digwydd tan 2019.

“Dyw’r system gyfredol ddim yn fforddiadwy ac fe fydd ein prifysgolion yn dioddef os na fydd y system yn cael ei hadolygu ar frys.”