David Jones
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi eu hymateb llawn i argymhellion Comisiwn Silk sy’n cadarnhau’r pwerau ariannol fydd yn cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad yng Nghaerdydd.

Cafodd y cyhoeddiad gwreiddiol ei wneud gan y Prif weinidog David Cameron a’i ddirprwy, Nick Clegg, yn y brifddinas ar 1 Tachwedd.

Mae’r ymateb yn cadarnhau y bydd rhai pwerau trethu’n cael eu rhoi yn nwylo Llywodraeth Cymru ac y  bydd yn rhaid i refferendwm gael ei gynnal cyn i dreth incwm gael ei ddatganoli.

Mae’r ymateb yn golygu y gall Llywodraeth Cymru fenthyg arian i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd newydd yng Nghymru gan gynnwys cynllun i ariannu prosiect i wella ffordd yr M4.

Ymhlith y diwygiadau newydd gafodd eu cyhoeddi gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, ac Ysgrifennydd Cymru, David Jones, ddydd Llun oedd: –

  • Datganoli treth dir y dreth stamp a threthi tirlenwi fydd yn galluogi llywodraeth Cymru i’w diwygio.
  • Datganoli trethi annomestig yn llawn i Gymru.
  • Rhoi grym i Lywodraeth Cymru i ddeddfu – gyda chaniatâd Llywodraeth y DU – gan gyflwyno trethi newydd.

Dywedodd Danny Alexander: “Bydd y pecyn o bwerau ariannol hwn yn arf grymus fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fod yn fwy atebol yn ariannol ac yn fwy tryloyw.”

Dywedodd David Jones y byddai’r pecyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fuddsoddi’n syth yn y cynlluniau isadeiledd maen nhw’n arwain gan gynnwys y rhwydwaith ffyrdd Traws-ewropeaidd, traffordd yr M4 a ffordd yr A55.

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt: “Byddwn angen cadarnhau’r manylion ynghylch sut y bydd y pecyn llawn yn cael ei gyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf ac rwy’n edrych ymlaen at weithio i’r perwyl hwn gyda’r Prif Ysgrifennydd.”

Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno achos cryf o blaid datganoli Treth Teithwyr Awyr ar gyfer Teithiau Hir.

‘Angen ail-ystyried’

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, fod Comisiwn Silk wedi awgrymu y dylai Cymru gael pwerau i newid y tair cyfradd treth incwm yn ôl gofynion Cymru yn hytrach na syniad Llywodraeth y DU a fyddai’n gorfodi’r wlad i gynyddu neu ostwng y tair cyfradd ar yr un pryd.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ail-ystyried sut y bydd y pwerau hyn yn cael eu gweithredu a dilyn y model gafodd ei gynnig gan Silk,” meddai.

“Mae hefyd angen eglurhad ynghylch y berthynas rhwng pwerau benthyg Llywodraeth Cymru a threth incwm.”

Croesawodd llefarydd busnes y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay’r cyhoeddiad gan ddweud y byddai’n creu trafodaeth ynghylch creu’r amgylchiadau i hybu’r sector preifat i alluogi busnesau bach i oroesi.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: “Rydym wedi gorfod dygymod â’r system chwerthinllyd lle mae cynghorau a chymdeithasau tai, ond nid Llywodraeth Cymru, wedi gallu benthyg arian ar gyfer prosiectau cyfalaf. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig ymlaen i Gymru.”