Dr Ruth Hussey
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at y gwasanaeth iechyd ynghylch y marwolaethau a’r anafiadau diangen sy’n cael eu hachosi gan wenwyn carbon monocsid.
Ar yr un pryd, mae’r Gweinidog Tai Carl Sargeant wedi pwysleisio yr hyn y gellir ei wneud mewn cartrefi er mwyn bod yn ddiogel ac yn rhydd o’r nwy gwenwynig.
Bob blwyddyn mae tua 50 o farwolaethau damweiniol yn digwydd oherwydd gwenwyn Carbon Monocsid yng Nghymru a Lloegr ac mae angen triniaeth ysbyty mewn mwy na 200 o achosion sydd heb fod yn angheuol.
‘Y lladdwr tawel’
Mae’r swyddogion meddygol a’r Gweinidog am godi ymwybyddiaeth am fygythiadau cudd ‘y lladdwr tawel’.
Dywedodd y prif swyddog meddygol, Dr Ruth Hussey: “Allwch chi mo’i weld, allwch chi mo’i arogli na’i flasu, ond gall gwenwyn carbon monocsid arwain at broblemau iechyd cronig.
“Mae’r symptomau’n aml yn dechrau’n ysgafn ac efallai na fydd y claf na’r meddyg yn eu hadnabod.
“Gall pobl sy’n dod i gysylltiad â CO ddioddef o gur pen, cyfog, chwydu a phendro. Gellir camgymryd y symptomau hyn am fathau eraill o salwch, fel y ffliw neu wenwyn bwyd.
“Fodd bynnag, er y gall dod i gysylltiad cronig â lefelau is o CO arwain at arwyddion o gyflyrau eraill, mae dod i gysylltiad â lefelau uchel o garbon monocsid yn gallu arwain at berson yn llewygu a gwanhau, neu at farwolaeth o fewn munudau.
“Wrth i’r tywydd oeri a’r systemau gwresogi gael eu troi ymlaen, rwy’n annog pob cartref yng Nghymru i wneud yn siŵr bod ganddynt larwm sy’n gallu synhwyro carbon monocsid, er mwyn atal rhagor o farwolaethau a gwenwyno.”
Landlordiaid
Dywedodd Carl Sargeant: “Os ydych yn rhentu, gofynnwch i’ch landlord pryd oedd y tro diwethaf y cafodd yr offer sydd angen gwasanaeth eu harchwilio, a mynnwch eu bod yn cael eu harchwilio.
“Nid nwy yn unig sy’n cynhyrchu CO. Dylech archwilio simneiau a ffliwiau ar gyfer tanau a stofiau tanwydd solet a thanwydd olew i wneud yn siŵr nad ydynt wedi’u blocio neu’n gollwng.”