Sebastien Ogier yn rasio yn ei Volkswagen Polo R ar gwrs rasio Sweet Lamb ger Llangurig ddydd Iau (llun gan drefnwyr Rali Cymru GB)
Y Ffrancwr Sebastien Ogier yw enillydd Rali Cymru GB a orffennodd yn Llandudno’r prynhawn yma.
Enillodd ei nawfed ras yn ei Volkswagen Polo R ers cipio’i deitl pencampwriaeth rali byd cyntaf y mis diwethaf.
Dim ond y cyn-bencampwr Sebastien Loeb, Ffrancwr arall, a enillodd 10 allan o 13 cymal yn 2005, sydd wedi gwneud yn well nag Ogier.
Thierry Neuville o wlad Belg a enillodd yr ail le yn y bencampwriaeth yn ei Ford Fiesta RS.
Dywedodd y trefnwyr fod cynnal y rali yn y gogledd wedi profi i fod yn llwyddiant mawr ac wedi denu mwy nag erioed o wylwyr.