Purfa olew Grangemouth, yr Alban (Llun: PA)
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad i ymddygiad yr undebau yn yr anghydfod diwydiannol ym mhurfa olew Grangemouth y mis diwethaf.

Mae hyn o ganlyniad i gyhuddiadau bod yr undebau wedi ymddwyn yn fygythiol tuag at swyddogion cwmni Ineos – perchnogion y burfa – gan drefnu protestiadau y tu allan i’w cartrefi. Fe fu’n agos i’r anghydfod chwerw – a oedd yn ymwneud â phensiynau gweithwyr – arwain at gau’r burfa.

Wrth ymateb i gyhoeddiad y Llywodraeth, meddai pennaeth hawliau cyflogaeth y TUC, Sarah Veale:

“Mae hyn yn ymateb cwbl anghymesur i un neu ddau o achosion. Mae’n gywilydd fod y Llywodraeth yn cymryd arnyn nhw fod hyn yn fater o fudd i’r cyhoedd.

“Mae hen draddodiad mewn democratiaeth waraidd fel y Deyrnas Unedig fod pobl yn gallu mynegi eu barn mewn ffordd heddychlon a chyfreithlon. Dyna mae’r undeb yn ei wneud.”

Tensiynau

Mewn arwydd o densiynau rhwng dau bartner clymblaid y Llywodraeth, mae dau o weinidogion cabinet y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi mynegi amheuon.

Roedd y Gweinidog Busnes Vince Cable eisoes wedi dweud mai’r unig reswm y cytunodd i’r ymchwiliad oedd ar y sail y byddai’n edrych ar ddulliau gweithredu’r cyflogwyr yn ogystal. Bellach mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, hefyd wedi dweud na fydd yn cefnogi unrhyw newidiadau yn y gyfraith oni bai y byddai’n sicr y bydden nhw’n arwain at welliant yn y berthynas rhwng cyflogwyr ac undebau.

Fe fydd yr ymchwiliad yn cael ei arwain gan y cyfreithiwr diwydiannol Bruce Carr QC, ac mae’r Llywodraeth wedi gofyn iddo gwblhau ei adroddiad o fewn chwe mis.