Eira yn Llanllyfni, Gwynedd, ddechrau'r flwyddyn (Anna Wyn Jones)
Mae o leiaf bythefnos o dywydd oer a rhewllyd ar fin cychwyn – ac mae eira ar y ffordd yn y gogledd.

Dyna yw rhybudd y gwasanaeth tywydd Meteogroup, sy’n disgwyl i’r tymheredd ddisgyn islaw’r rhewbwynt o yfory ymlaen, wrth i wyntoedd oer o’r gogledd-orllewin daro rhannau helaeth o Brydain.

Er mai gogledd yr Alban sydd debycaf o’i chael hi waethaf, mae gogledd Cymru hefyd ymysg y lleoedd lle disgwylir eira’r wythnos nesaf.

Mae’r cyfartaledd tymheredd am fis Tachwedd eleni’n debyg o fod yn 3 gradd C yn oerach na’r llynedd.