Y Prif Weinidog David Cameron (PA)
Mae’r Prif Weinidog wedi gwrthod galwad gan arbenigwr blaenllaw mewn iechyd cyhoeddus am ostwng yr oedran cydsynio ar gyfer cyfathrach rywiol i 15.

Roedd yr Athro John Ashton, llywydd y Gyfadran Iechyd Cyhoeddus, corff sy’n cynghori’r Llywodraeth, wedi galw am drafodaeth gyhoeddus, gan ddweud bod cymdeithas yn anfon negeseuon anghyson ynghylch pryd y caniateir cyfathrach rywiol.

Ei ddadl yw y byddai gostwng yr oedran yn ei gwneud hi’n haws i rai sydd o dan oed ac mewn perthynas rywiol i gael gwasanaethau atal cenhedlu a chyngor ar iechyd rhywiol gan y Gwasanaeth Iechyd.

Dywed fodd bynnag ei fod yn dderbyn na ellir cymryd cam o’r fath heb gefnogaeth y cyhoedd a bod angen darganfod eu barn.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog David Cameron: “Rydym yn gwrthod yr alwad i ostwng oedran cydsynio. Mae’r oedran presennol wedi ei bennu i amddiffyn plant, ac nid oes unrhyw gynlluniau i’w newid.”

Dywedodd pennaeth polisi’r NSPCC y byddai’n barod i drafod y mater ond y byddai angen iddo weld tystiolaeth cyn y gallai dderbyn honiadau’r Athro Ashton.