Mae cwmni yswiriant Swinton – sydd â changhennau ledled Cymru – yn gwrthod gadael i staff sy’n medru siarad Cymraeg, i drafod busnes gyda’u cwsmeriaid yn Gymraeg.

Ar ôl ffonio’r gangen yn Aberystwyth, a gofyn am gael siarad yn Gymraeg, dywedodd aelod o staff, a oedd yn siaradwr Cymraeg, wrth ohebydd Golwg nad oedd hawl ganddo sgwrsio yn Gymraeg dros y ffôn, am fod y cwmni yn recordio’r sgyrsiau ffôn.

Meddai llefarydd ar ran cwmni Swinton: “Nid yw Swinton yn hyrwyddo ei wasanaethau nac yn creu unrhyw ddisgwyliadau ymysg cwsmeriaid y bydd yn cynnal ei fusnes mewn unrhyw iaith heblaw am Saesneg.

“Os yw cwsmeriaid yn gofyn am siarad gyda ni mewn iaith heblaw am Saesneg byddwn yn eu hysbysu nad yw hyn yn bosib.”

Cwynion lu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi derbyn cwynion am Swinton ac yn galw ar Gomisiynydd y Gymraeg i ddatrys y mater.

“Mae polisi o’r fath yn groes i hawliau dynol staff a chwsmeriaid y cwmni, ac yn gwbl warthus,” meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae’n rhaid i Gomisiynydd y Gymraeg gynnal ymchwiliad i’r materion hyn; mae ganddi hi bwerau newydd yn y maes yma oherwydd helyntion tebyg dros y blynyddoedd.”

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg mae hi’n ystyried cynnal ymchwiliad.

Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.

(stori: Non Tudur)