Drôn di-beilot
Fe fydd perchennog Maes Awyr Llanbedr ger Harlech yn cwrdd â phobol leol heno (nos Iau) i drafod y bwriad i ddefnyddio’r maes awyr i arbrofi gydag awyrennau di-beilot.

Mae cynghorwyr lleol wedi croesawu’r datblygiad a’r swyddi allai ddod yn ei sgîl ond mae’r mudiad heddwch, Cymdeithas y Cymod, yn erbyn y bwriad i arbrofi gyda’r hyn y maen nhw’n eu galw’n ‘adar angau’ yn yr ardal.

Rhoddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y gorau i ddefnyddio maes awyr Llanbedr ger Harlech yn 2004. Ond yn 2011 llwyddodd Llywodraeth Cymru i sicrhau Tystysgrif Datblygu Gyfreithiol er mwyn arbrofi, ymchwilio a gwerthuso awyrennau di-beilot yn Llanbedr unwaith eto.

Mae drôns yn cael eu rheoli o’r llawr gyda chamerâu ac yn cael eu defnyddio at ddiben sifil, fel mapio tir, yn ogystal â mewn rhyfeloedd er mwyn targedu llefydd i’w bomio.

O blaid – ac yn erbyn

Yr wythnos nesaf  bydd Cymdeithas y Cymod – sy’n rhan o fudiad heddwch rhyngwladol – yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ym Mhorthmadog i dynnu sylw at yr hyn maen nhw’n eu galw’n ‘adar angau’ neu drôns cyn mynd ati i drefnu protest yn Llanbedr.

Does dim tystiolaeth fod drôns o Gymru yn cael eu defnyddio mewn rhyfeloedd tramor, meddai Kevin Titley, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbedr.

“Dydi ein llywodraeth ni heb eu defnyddio nhw i ladd neb erioed naddo? Ac ydyn nhw ddim yn debygol o wneud,” meddai.

Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg