Menna Richards
Mae’r BBC wedi cadarnhau nad oedden nhw’n gallu penodi’r un o’r ymgeiswyr gwreiddiol ar gyfer swydd cyfarwyddwr BBC Cymru.
Yr wythnos diwethaf daeth i’r amlwg fod y BBC wedi methu â phenodi pennaeth newydd i gymryd yr awenau yn Llandaf.
Roedd disgwyl iddyn nhw gyhoeddi olynydd i Menna Richards ddiwedd y mis yma ar ôl iddi gyhoeddi ym mis Tachwedd ei bod hi’n rhoi’r gorau iddi.
Ddoe anfonodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Mark Thompson, e-bost at weithwyr y BBC yn dweud ei fod wedi penodi’r pennaeth rhaglenni Cymraeg, Keith Jones, i’r swydd dros dro.
Roedd yr e-bost yn awgrymu y gallai fod yn y swydd dros gyfnod o fisoedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y gorfforaeth heddiw eu bod nhw’n bwriadu parhau i chwilio hyd nes eu bod nhw’n dod o hyd i’r person cywir.
“Dydyn ni ddim yn trafod recriwtio gweithwyr unigol. Ond yn yr achos yma mae’n amlwg yn bwysig ein bod ni’n penodi’r person cywir,” meddai’r gorfforaeth mewn datganiad i bapur newydd y Western Mail.
“Mae sawl ymgeisydd cryf wedi gwneud cais am y swydd ond doedden ni ddim yn gallu penodi neb ac felly rydyn ni wedi ymestyn y broses o ddewis ymgeisydd.
“Mae gofynion y swydd yr un fath.”