Neuadd Pentre Bach - ond gorsaf bleidleisio ddydd Iau
Gyda lllai nag wythnos ar ôl tan y Refferendwm Datganoli, mae’r gwaith ar y gweill i baratoi un o orsafoedd pleidleisio mwy anarferol a mwyaf lliwgar Cymru.
Fe fydd dathliadau Wythnos y Llyfr yn cael eu hatal am ddiwrnod ym Mhentre Bach Ceredigion er mwyn i bobol leol gael cyfle i fwrw pleidlais.
Mae Neuadd y Pentref, sy’n rhan o atyniad pentref y cymeriad teledu plant Sali Mali, ym Mlaenpennal ger Tregaron, yn cael ei throi’n orsaf bleidleisio am y diwrnod.
“Adfail gefail y gof oedd yma pan oeddwn i’n blentyn bach,” meddai perchennog Pentre Bach, Ifana Savill. “Dw i’n cofio fy rhieni yn sôn am y dyddie pan oedd yr hen efail, fel ym mhob pentre arall, yn ganolfan y pentre. Mae’n braf gweld y bwrlwm yma unwaith eto.
Does dim gwybodaeth sut y bydd Sali Mali na Jac y Jwc yn pleidleisio.
Neges Wythnos y Llyfr
Fe fydd neges bwysig yn cael ei rhoi yn y pentref yn ystod dathliadau Wythnos y Llyfr hefyd – a’r rheiny’n digwydd tros dridiau o gwmpas y Refferendwm – ar y dydd Mercher a’r dydd Gwener a dydd Llun, 7 Mawrth.
Fe fydd dau gymeriad newydd, Gwen Gwadden ac Aled Ailgylchu’n ymuno gyda chymeriadau mwy cyfarwydd fel Sali Mali a Siani Flewog i roi gwedd werdd ar bethau.
Mae Aled Ailgylchu’n gymeriad sydd wedi ei greu gan Gyngor Sir Ceredigion a Gwen Gwadden Adnoddau Adnewyddol yn un o ‘drigolion’ newydd Pentre Bach, wedi ei chreu ar gyfer DVD o’r enw Bili Bom Bom a’r Peiriant Amser.
Yn ogystal â dosbarthu llond fan o lyfrau fe fydd cystadleuaeth gwisg ffansi amgylcheddol a gwobrau arbennig.
“Fe fydd Aled Ailgylchu a Gwen Gwadden Adnoddau Adnewyddol yn cadw llygad ar bawb i wneud yn siŵr eu bod yn Arbed, Ailddefnyddio, ac Ailgylchu,” meddai Ifana Savill. “Yn enwedig Bili Bom Bom yn ei weithdy a Sali Mali yn y Caffi.”