Sian Gwynedd, golygydd Radio Cymru
Mae golygydd Radio Cymru wedi dweud heddiw nad oes gan yr orsaf unrhyw reolaeth dros daliadau PRS i gerddorion.
Daw ei sylwadau ar ôl i gerddorion Cymraeg addo mynd ar streic, a gwrthod yr hawl i Radio Cymru ddefnyddio eu cynnyrch, ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Maen nhw o’r farn eu bod nhw’n “haeddu gwell na 49 ceiniog y funud” gan y PRS am gael chwarae eu cerddoriaeth ar yr orsaf.
Mewn darn barn ym mhapur newydd y Cymro heddiw mae golygydd yr orsaf, Sian Gwynedd, yn honni eu bod nhw “yn gwbl gefnogol i gerddorion yng Nghymru”.
“Wrth i nifer o gerddorion Cymru baratoi i brotestio ar y cyntaf o Fawrth, mae’n bwysig egluro rhai ffeithiau ynglŷn â’r anghydfod hwn,” meddai.
“Dylwn egluro i ddechrau mai anghydfod ydi hwn rhwng y Performing Rights Society (PRS) a’u haelodau yng Nghymru ynglŷn â’u taliadau.
“Nid Radio Cymru, sydd yn penderfynu faint o arian mae’r cerddorion yn ei gael gan y PRS.
“Nid Radio Cymru, na’r BBC sydd yn penderfynu sut i ddosrannu arian am chwarae cerddoriaeth, ond y PRS. Ni ddylai gwrandawyr Radio Cymru orfod dioddef yn ei sgìl.”
Mae hefyd yn dweud fod y BBC wedi ysgrifennu at y PRS “i ddatgan pryder y gallai’r sector creadigol a phwysig hwn ddirywio yng Nghymru ac felly effeithio yn andwyol ar safon gwasanaeth Radio Cymru i’r gwrandawyr”.
‘Mwy o bwysau’
Ond mae trefnwyr yr ymgyrch o’r farn y bydd y streic yn gorfodi y BBC i roi mwy o bwysau ar y PRS i gynnig rhagor o arian i gerddorion o Gymru.
“Mae gan y BBC y dylanwad i ddod a’r anghydfod i ben”, meddai Deian ap Rhisiart wrth Golwg360.
Un mater nad oedd Sian Gwynedd yn ymdrin â hi yn ei llythyr oedd y ffaith nad oedd Radio Cymru ar y rhwydwaith radio digidol, meddai.
Petai Radio Cymru arno fe fyddai’n cael ei ystyried yn orsaf genedlaethol ac y byddai cerddorion yn cael eu talu £4.71 y funud yn hytrach nag 49 ceiniog.
“Mi fyddai bod ar y rhwydwaith yn gam ymlaen i gerddorion Cymraeg,” meddai Deian ap Rhisiart.
“Dw i’n croesawu bod y BBC wedi anfon llythyr at y PRS. Ond dyw hi ddim yn glir faint o ddatblygiad yw hyn. Ydyn nhw’n trafod â’r PRS?
“Y peth pwysig yw ein bod ni’n parhau i ymladd am dâl teg am ein cynnyrch ni.
“Mae bron i 400 o bobol eisoes wedi ymaelodi i gefnogi’r ymgyrch ar Facebook. Mae’r BBC yn dechrau sylweddoli bod pobol yn teimlo’n anesmwyth ynglŷn â hyn.”
Sain yn cefnogi
Mae Dafydd M Roberts, Prif Weithredwr Sain, a Dafydd Iwan, Cyfarwyddwr y cwmni, hefyd wedi ysgrifennu llythyr at Radio Cymru yn galw arnyn nhw i roi pwysau ar PRS i dalu cerddorion Radio Cymru yn well
Maen nhw hefyd wedi gofyn i’r BBC beidio chwarae unrhyw draciau ar label Sain a’i is-labeli na labeli sy’n rhan o’r archif Sain.