Kate Middleton a'r Tywysog William
Mae S4C wedi cadarnhau wrth Golwg 360 y bydd y sianel yn darlledu cyfres o raglenni am y Briodas Frenhinol ym mis Ebrill.
Dywedodd y sianel wrth Golwg 360 eu bod nhw’n bwriadu darlledu “rhaglenni yn ymwneud â’r briodas Frenhinol cyn ac yn ystod yr achlysur”.
“Bydd BBC Cymru yn darparu rhaglen am y briodas ei hun, a bydd rhaglenni a chyfresi eraill fel Wedi 7, Y Byd ar Bedwar a rhaglen arbennig ar drothwy’r briodas (gan Gwmni Da) yn cynnig sawl dehongliad o’r digwyddiad,” meddai llefarydd ar ran S4C wrth Golwg360.
Ychwanegodd llefarydd mai “bwriad S4C yw darparu gwahanol fathau o raglenni ar gyfer gwylwyr S4C, o bob oed ac o bob cefndir”.
AC yn dweud nad oes ddiddordeb
Dywedodd yr Aelod Cynulliad, Bethan Jenkins, sy’n weriniaethwr, na ddylai S4C fod yn gwario eu hadnoddau ar raglenni am briodas y Tywysog William a Kate Middleton.
“Pan welais i fod nifer o ddarllediadau, roeddwn i eisiau gwybod ar ba sail y maen nhw am wario ar y rhaglenni hyn. Mi fyddwn i’n hoffi gweld yr ymchwil,” meddai.
“Mae llawer o bobl ifanc yn weriniaethwyr, heb gymaint â hynny o ddiddordeb yn y briodas.
“Ydi S4C wedi gwneud ymchwil i gadarnhau fod pobl eisiau’r rhaglenni hyn neu a ydyn nhw dan bwysau gan y BBC neu rywun arall?”
Os oedd rhaid rhoi sylw i’r briodas fe ddylai fod yn ddiduedd, meddai.
“Rydw i eisiau rhaglenni diduedd am bobl sydd o blaid ac yn erbyn y Teulu Brenhinol,” meddai.
‘Dim diddordeb’
Dywedodd y canwr Dafydd Iwan, ysgrifennodd gân dychanol am y Tywysog Siarl ar drothwy ei arwisgiad, nad oedd y “newyddion yn ei synnu”.
Ond awgrymodd mai’r peth gorau i bobol oedd yn gwrthwynebu’r Teulu Brenhinol ei wneud oedd anwybyddu’r briodas.
“Mae pawb yn rhoi sylw i’r peth, er nad oes gen i ddiddordeb,” meddai.
“Rydw i mewn cyngerdd yng Nghlwb Rygbi Castell Nedd ar y diwrnod hwnnw – fydd hynny ddim oll i’w wneud â’r briodas.”