Mae Ymchwiliad Pallial, sy’n ymchwilio i honiadau o gam-drin rhywiol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru, wedi derbyn dros 200 o honiadau ers i’r ymchwiliad gychwyn flwyddyn ôl.
Mae 100 o’r honiadau hynny wedi dod ers mis Ebrill pan wnaeth Pallial ryddhau Adroddiad Datblygiad Cyhoeddus.
Mae’r rhai sy’n honni yn byw ar draws Prydain erbyn hyn ac mae 54% ohonynt rhwng 40-50 oed.
Holi
Mae’r ymchwiliad wedi derbyn enwau tua 100 o droseddwyr ac wedi arestio 14 o bobol yn barod, gydag un person sydd wedi ei gyhuddo o dros 30 o achosion difrifol.
Mae 24 o’r 100 o enwau bellach wedi marw, ond mae Pallial yn dweud eu bod am barhau i ymchwilio i’r honiadau yn eu herbyn.
“Bydd y rhai sy’n honni iddynt gael eu cam-drin gan bobol sydd wedi marw yn cael eu diweddaru ar yr ymchwiliad ac yn cael gwybod cyn diwedd y flwyddyn os byddai eu cyfraniad wedi golygu bod ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal” dywedodd y Uwch Swyddog yr ymchwiliad Ian Mulcahey.
Bregus
Yn ôl Ed Beltrami, yr Erlynydd Cyhoeddus i Wasanaeth Erlyn y Goron Cymru mae rhai sy’n gwneud honiadau yn aml yn fregus oherwydd y stereoteip sy’n ymwneud â throseddau rhywiol.
“Rydym wedi ailffurfio’r system o ddelio hefo achosion o gam-drin rhywiol yn y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn credu fod angen i’r ffocws fod ar hygrededd cyffredinol yr honiad, yn hytrach na pa mor fregus yw’r person sy’n honni. ”
Mae Jenny Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Bro Conwy wedi dweud fod Rheolwr Iechyd Meddwl wedi ei gyflogi i roi cefnogaeth i’r dioddefwyr.
“Mae’r effaith ar fywydau pobol am fod yn enfawr a bydd rhaid rhoi cefnogaeth arbenigol am flynyddoedd i ddod.”