Ysbyty Treforys
Cadarnhaodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch y byddan nhw’n holi rhagor am farwolaeth ffarmwr ar ôl ymosodiad gan garw.

Fe fu farw Kenneth Price yn Ysbyty Treforys, Abertawe lle’r oedd yn cael triniaeth i anafiadau difrifol yn dilyn yr ymosodiad ar ei ffarm yn ardal Saron ger Llandysul.

Fe fydd Crwner Abertawe’n agor y cwest i’w farwolaeth cyn trosglwyddo’r achos i Grwner Siroedd Penfro a Chaerfyrddin.

Mae’n ymddangos fod Mr Price yn ffermwr defaid profiadol oedd yn ddiweddar wedi arallgyfeirio i fagu cig carw. Roedd yn feirniad defaid.