Senedd yr Alban yn Holyrood - ond dyw'r GMB ddim o blaid cadw'r status quo
Mae un o undebau llafur mwya’r Alban wedi penderfynu cefnogi pleidlais ‘Na’ yn y refferendwm annibyniaeth.

Ond mae’r GMB hefyd wedi dweud nad yw hynny’n golygu eu bod eisiau cadw pethau fel y maen nhw.

Yn ogystal ag ymgyrchu tros bleidlais ‘Na’, maen nhw’n dweud yi byddan nhw’n ymguyrchu am ragor o ddatganoli a “llawer rhagor o rym” i bobol y wlad, i awdurdodau lleol a chymunedau.

Y penderfyniad

Cyngor Rhanbarthol y GMB yn yr Alban sydd wedi penderfynu ar y polis ac roedd hynny, medden nhw, ar ôl cyfnod hir o ymgynghori.

Er fod rhai aelodau o blaid annibyniaeth ac eraill heb fod yn siŵr, roedd mwyafrif llethol yn erbyn pleidlais ‘Ie’, meddai’r undeb mewn datganiad.

Un o’r ffactorau allweddol, medden nhw, oedd pryder am swyddi ym meysydd amddiffyn, adeiladu llongau a chynhyrchu.