Alwyn Gruffydd - 'dim atebolrwydd lleol'
Mae’r adeiladwr a gododd gartref henoed Hafod y Gest ym Mhorthmadog yn y 70au yn dweud nad oes rheswm dros gau’r adeilad.

Fe allai’r adeilad “sefyll am 100mlynedd arall” meddai Henry Jones o Gricieth.

Mae hynny’n mynd yn groes i farn Cyngor Gwynedd ar ôl i’r cabinet benderfynu cau’r cartref gan ddweud y byddai’n costio gormod i’w wella.

Ac mae arweinydd y grŵp ymgyrchu i achub y cartref wedi cyhuddo’r cyngor o beidio â gwrando ar y bobol.

‘Blin hefo’r cyngor’

Ar ôl ymgyrchu am dros flwyddyn yn erbyn cau’r cartref henoed, mae Cadeirydd Cyfeillion Hafod y Gest yn cyhuddo’r cyngor o ymddwyn yn “ddideimlad” at y deg o bobol sydd yn y cartref ar hyn o bryd.

Yn ôl Martha Hughes, mae Cyngor Gwynedd wedi  anwybyddu “beth mae pobol Port eisiau” a dyw hi ddim yn credu mai’r ateb yw codi fflatiau yn lle’r cartref

‘Dim atebolrwydd lleol’

Mae’r cynghorydd lleol Alwyn Gruffydd hefyd yn credu yw nad yw’r system cabinet yn y cyngor yn rhoi cyfle i wrando ar lais y bobol leol.

“Mae’r gyfundrefn yn gwbl annheg ac dydi’r system cabinet ddim yn gweithio,” meddai.

“Rydan ni wedi bod yn ymgyrchu ers dros flwyddyn i gadw’r cartref yn agored, ond mae penderfyniad y cabinet yn gwneud sbort ar ben hynny. Does dim math o atebolrwydd lleol.”