Hag Harris sy'n dal y portffolio addysg yng Ngheredigion
Mae cynllun i gau rhai o ysgolion cynradd Ceredigion gam yn nes.

Heddiw penderfynodd cabinet Cyngor Ceredigion gymeradwyo argymhellion i ddechrau cyfnod ymgynghori ynghylch cau ysgolion cynradd Tregaron a Llanddewi Brefi, a chau Ysgol Uwchradd Tregaron gan ddarparu addysg yn yr ardal drwy godi ysgol 3-16 yn Nhregaron.

Maen nhw hefyd yn ystyried dyfodol Canolfan Hamdden Tregaron – y syniad yw ei gwneud yn rhan o’r ysgol newydd a rhoi’r cyfrifoldeb arni hi i gynnal y ganolfan ar sail masnachol.

Cytunodd y cabinet hefyd i i ddechrau’r broses ymgynghori ynglŷn â chau ysgolion cynradd Dihewyd  a Threfilan a chau campws Penuwch Ysgol Rhos Helyg.

Y trydydd penderfyniad oedd i fwrw ymlaen i gau ysgolion Llanwenog, Llanwnnen a Chwrtnewydd ac adeiladu ysgol newydd ym mhentref Drefach sy’n fras yn y canol.

Dywed y cyngor fod 1,000 yn llai o blant yn y sir nag oedd yno ddegawd yn ôl.