Mae cabinet Cyngor Gwynedd yn cyfarfod ar hyn o bryd i drafod dyfodol Cartref Preswyl Hafod y Gest ym Mhorthmadog.

Mae adroddiad eisoes wedi ei gyflwyno i’r cabinet, sy’n yn awgrymu y dylid cau’r cartref henoed, ar ôl trafod gyda’r preswylwyr presennol, eu teuluoedd a’r gweithwyr.

Yn ôl y Cynghorydd R H Wyn Williams sy’n gyfrifol am yr adroddiad, byddai angen buddsoddiad sylweddol i wella cyflwr yr adeilad a’i wneud yn addas i breswylwyr.

“Y ffaith ydi, adeiladwyd Hafod y Gest fel adeilad dros dro, ac mae eisoes wedi bod yn sefyll yn llawer hirach nag oedd y bwriad yn wreiddiol” meddai.

“Rydym bellach wedi dod i’r canlyniad nad oes modd parhau a’r drefn bresennol, ac mae’n rhaid dod i benderfyniad ar y ffordd ymlaen.”

Diogelwch y preswylwyr

Mae uchafswm y preswylwyr wedi gostwng o 30 i 10 yn sgil penderfyniad ddwy flynedd yn ôl i beidio â derbyn trigolion parhaol yno.

Dywed yr adroddiad mai gofal y preswylwyr sydd am gael blaenoriaeth, os bydd y cyngor yn penderfynu cau’r cartref:

“Yn anffodus, byddai unrhyw benderfyniad – naill ai cau’r cartref a chyflwyno tai gofal ychwanegol yn ei le, neu adnewyddu’r cyfleusterau presennol – yn golygu y byddai’n debygol fod angen symud y deg preswylydd presennol i gartref preswyl arall.”

“Y mae nifer o’r trigolion wedi creu rhwydwaith glos o fewn Hafod y Gest ac y bydd rhai’n dymuno symud gyda’i gilydd”.

Gweithredu

Mae’r cynghorydd Selwyn Griffiths wedi galw am ddatblygiad newydd i gymryd lle Hafod y Gest sydd wedi darparu gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn ardal Porthmadog ers canol y 1970au.

Ond beth bynnag fydd y penderfyniad,  mae’r cyngor wedi dweud fod angen gweithredu’n gyflym, er mwyn hwyluso’r cyfnod o ansicrwydd i’r preswylwyr.

Mae disgwyl i’r cabinet fod cam ymhellach at eu penderfyniad y pnawn ‘ma.