Mae 152 o bobl wedi eu dedfrydu i farwolaeth ym Mangladesh am eu rhan mewn miwtini pan gafodd 74 o bobl eu lladd yn 2009.
Bu 846 diffynnydd gerbron y llys yn Dhaka i ateb cyhuddiadau yn ymwneud â’r miwtini gan y Bangladesh Rifles a benderfynodd wrthryfela am eu bod eisiau cyflog gwell a gwell cyfleusterau.
Cafodd 161 ddiffynnydd arall eu rhoi dan glo am oes a chafodd 256 o bobol eu carcharu am rhwng tair a 10 mlynedd.
Mae’r grŵp hawliau dynol Human Rights Watch wedi beirniadu’r achos llys gan alw am achos llys newydd.
Maen nhw’n honni bod o leiaf 47 diffynnydd wedi marw pan oeddent yn y ddalfa.