Monty Halls a Lynsey Dodds - Prosiect y Moroedd Celtaidd
Mae’r cyflwynydd teledu Monty Halls, o’r rhaglen The Fisherman’s Apprentice ar BBC2, yn cefnogi lansiad Partneriaeth y Moroedd Celtaidd – prosiect rhyngwladol a fydd yn gwarchod y Moroedd Celtaidd dros bedair blynedd.
Nod y prosiect yw sicrhau rheoli cynaliadwy ar y Moroedd Celtaidd – y dyfroedd sy’n ymestyn o Ynysoedd Prydain ac Iwerddon i ogledd Ffrainc – gan geisio adfer bywyd gwyllt yn eu cynefinoedd naturiol.
Yn ôl llefarydd o Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF), mae dyfodol y rhanbarth hwn o dan fygythiad oherwydd problemau fel gorelwa, llygredd a newid yn yr hinsawdd.
Mae dolffiniaid, morloi, mecryll, a chimychiaid yn ogystal â gwymon bregus felly mewn peryg.
Mae’r prosiect, sydd â’i bencadlys yn swyddfa WWF Cymru ym Mae Caerdydd, felly am geisio dod â defnyddwyr y moroedd, byd diwydiant, llywodraethau a’r gymuned wyddonol yn ynghyd i sicrhau moroedd iach a chynaliadwy.
Dangos esiampl
“Dwi’n credu’n gryf yn yr hyn mae’r prosiect yn dadlau drosto” meddai Monty Halls.
“Bod angen i ni edrych ar ôl ein moroedd a chynnwys y bobl mae eu bywoliaeth yn dibynnu arnynt wrth eu rheoli.”
“Gellid defnyddio gweledigaeth WWF ar gyfer dyfodol cynaliadwy i’r Moroedd Celtaidd fel patrwm i leoedd eraill o gwmpas y byd”
Dr Lyndsey Dodds, sy’n rheoli’r prosiect o swyddfa WWF Cymru yng Nghaerdydd.
“Mae dod â defnyddwyr y moroedd ynghyd gyda llywodraethau a gwyddonwyr yn hanfodol i greu ffyrdd arloesol o weithio a fydd yn gwarchod bywoliaeth pobl a hefyd yr amgylchedd” meddai Dr Dodds.