Winston Roddick
Mae’r pedwar ymgeisydd a gollodd etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i Winston Roddick yn honni bod Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) wedi bod yn anghywir i wrthod cwyn yn erbyn yr ymgeisydd llwyddiannus.

Cynhaliodd yr IPCC ymchwiliad yn dilyn honiad nad oedd Winston Roddick yn breswylydd yng Nghaernarfon, a’i fod wedi camarwain ynglŷn â ble’r oedd ei gartref adeg yr etholiad ym mis Tachwedd y llynedd.

Ym mis Hydref canfu ymchwiliad yr IPCC ‘nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r gwyn yn erbyn Winston Roddick’.

Ond heddiw mae’r pedwar ymgeisydd a gollodd y ras i fod yn gomisiynydd cyntaf Gogledd Cymru – Richard Hibbs, Colm McCabe, Tal Michael a Warwick Nicholson- wedi rhyddau datganiad ar y cyd yn honni nad oedd Winston Roddick yn gymwys i sefyll ar gyfer y swydd.

Maen nhw’n annog yr IPCC i gyhoeddi adroddiad ymchwiliad yr IPCC ‘heb ei olygu’  gan honni fod ‘cyhoeddi adroddiad sydd wedi’i olygu yn creu’r argraff fod ‘na rywbeth i guddio’.

“Mae’r IPCC wedi gwneud camgymeriad arwyddocaol gan wrthod y cwyn…a chyfeirio’r ffeil at Wasanaeth Erlyn y Goron i ystyried a yw erlyniad er lles y cyhoedd,” meddai’r datganiad.

Cofnodion ffôn

Yn ddiweddarach ym mis Hydref cyhoeddodd yr IPCC fanylion yr adroddiad a ddatgelodd fod ymchwilwyr wedi astudio cofnodion ffôn symudol Winston Roddick.

Dywed yr adroddiad fod y rhan fwyaf o’r galwadau ffôn cyntaf ac olaf bob dydd yn ystod cyfnod o 44 diwrnod rhwng 1 Hydref a 15 Tachwedd wedi’u gwneud tra bod Mr Roddick yng Nghaernarfon.

Ychwanegodd yr adroddiad fod tystiolaeth y cofnodion ffôn symudol yn dangos bod Winston Roddick yn aros ac yn cysgu yng Nghaernarfon yn ystod y cyfnod hwn.

Mae Golwg 360 wedi gofyn i’r IPCC a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru am eu hymatebion.