Sweet 66 (llun o wefan y siop)
Mae gwerthwr losin yng Nghwmbrân wedi cael diryw am werthu siocled Wonka ffug a oedd mewn gwirionedd yn siocled rhad o’r archfarchnad.

Roedd Sweet66 Ltd yn prynu siocled am 30c o ASDA ac yn ei werthu am £3, wedi ei ail-lapio hefo logo Wonka gan y cwmni Nestlé. Daeth hyn i’r amlwg yn dilyn ymchwiliad dan arweiniad gan Matthew Bartlett, uwch swyddog safonau masnach Cyngor Torfaen.

Fe wnaeth y cwmni bledio’n euog i wyth achos o dorri amodau deddfwriaeth nod masnach a chamarwain cwsmeriaid i brynu  siocled rhad. Fe roddwyd dirwy o £400 am dorri’r gyfraith a £1000 tuag at y costau erlyn.

Gwerthu

Fe ddechreuodd Sweet66 Ltd, sydd yn eiddo i Mr Alexander Gwillym, 39, o Lantarnam, Cwmbrân, werthu’r siocled rhad ym mis Medi 2012.

Clywodd Llys Ynadon Casnewydd bod Alexander Gwillym wedi methu a chofrestru ei nod masnach ei hun ‘Mr Wonka Bar’, am fod yn rhy debyg i nod masnach ‘Wonka’, a byddai yn debygol o gamarwain y cyhoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneira Clark, aelod gweithredol dros dai, cynllunio a diogelu’r cyhoedd:

“Mae cwsmeriaid yn disgwyl prynu nwyddau, yn cynnwys bwyd, sydd wedi eu labelu’n gywir yn unol â deddfau diogelu’r cyhoedd.

“Mae gwaith gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd yn Nhorfaen yn hollbwysig i ddiogelu iechyd a lles economaidd y cyhoedd ac mae’r fath erlyniad yn cyfleu’r neges yn glir, na fyddwn yn goddef unrhyw fasnachwyr sydd yn gwerthu nwyddau ffug.”