Fe fydd rheolwyr yn rhai o brif lythyrdai Cymru’n mynd ar streic heddiw, yn rhan o ymgyrch i gael codiad cyflog.
Yn ôl undeb Unite, fe fydd tua 900 o reolwyr yn mynd ar streic undydd trwy wledydd Prydain – hynny’n bennaf yn y swyddfeydd mawr, sy’n dal i fod ar y stryd fawr.
Ond mae streic gan staff y cownteri, sy’n aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, wedi cael ei gohirio er mwyn cynnal trafodaethau.
Yn ôl un o swyddogion Unite, mae’r Llythyrdy wedi cymryd agwedd “galed” iawn at gais yr aelodau am godiad cyflog – mae’r undeb yn dweud nad ydyn nhw wedi cael cynnydd ers mwy na blwyddyn.
“Er ein bod yn deall y bydd y gweithredu diwydiannol yn achosi anhwylustod i’r cyhoedd, mae’r mater yn nwylo’r rheolwyr i ddod i gytundeb teg,” meddai.