Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth mewn cysylltiad ag ymosodiad rhywiol ddigwyddodd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf eleni.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 5yh ar Orffennaf 8, pan gafodd dynes 24 oed ei chyffwrdd yn anweddus y tu allan i Fferyllfa Lloyds ar Bute Street.
Mae’r drwgweithredwr wedi’i ddisgrifio fel dyn croenddu yn ei 60au, yn cerdded ar bwys ei ffon. Roedd yn gwisgo cap am ei ben, a allai fod wedi bod yn benwisg grefyddol, ac roedd ganddo siaced lwyd a throwsus brown amdano.