Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau enw’r dyn fu farw ar wyneb clogwyn Y Gogarth yn Llandudno.

Fe ddaeth Gwylwyr y Glannau o hyd i gorff Andrew Parvin, 47 mlwydd oed, o Ddeganwy tua 10.30am ddoe.

Roedd wedi bod ar goll o’i gartref yn Neganwy ers ddydd Llun. Fe fydd post mortem yn cael ei gynnal heddiw.

“Rydyn ni’n apelio am wybodaeth oddi wrth unrhyw un a oedd ar Y Gogarth brynhawn Sul ac a welodd neu siaradodd ag Andrew Parvin,” meddai Mark Cartmell o’r Heddlu.

Dywedodd yr heddlu ei fod yn ddyn tenau, â gwallt tywyll, ac yn gwisgo siaced gerdded dywyll, trywsus khaki a bŵts cerdded.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth alw Heddlu’r Gogledd ar 101, 0845 6071001, yrru neges destun i 66767 neu alw Taclo’r Tacle’ ar 0800555111.