Julian Assange
Fe fydd sylfaenydd Wikileaks, Julian Assange, yn cael ei anfon i Sweden i wynebu cyhuddiadau o ymosod yn rhywiol, penderfynodd barnwr heddiw.

Mae’r dyn 39 oed o Awstralia wedi ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar un dynes ac o dreisio dynes arall ar ymweliad wythnos o hyd â Stockholm ym mis Awst.

Mae disgwyl iddo apelio yn erbyn y penderfyniad yn yr Uchel Lys. Mae ei gyfreithwyr yn dadlau y byddai ei anfon i Sweden yn mynd yn groes i’w hawliau dynol.

Y penderfyniad

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad yn Llys Ynadon Belmarsh yn ne-ddwyrain Llundain, dywedodd yr Ustus Howard Riddle nad oedd estraddodi Assange yn mynd yn groes i’w hawliau dynol.

Roedd hefyd yn anghytuno â dadl cyfreithwyr Julian Assange na fyddai wedi ei gyhuddo o dreisio pe bai wedi ymddwyn yn yr un modd ym Mhrydain.

Gwrthododd y ddadl na fyddai sylfaenydd Wikileaks yn derbyn achos llys teg yn Sweden, er bod rywfaint o gyhoeddusrwydd gwael wedi bod yn y wasg yn y wlad.